peoplepill id: john-james-hughes
JJH
Wales
1 views today
1 views this week
John James Hughes
Welsh journalist

John James Hughes

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh journalist
A.K.A.
Alfardd
Places
Gender
Male
Birth
Place of birth
Carreglefn, Anglesey, Isle of Anglesey, United Kingdom
Place of death
Bangor, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Age
33 years
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd a llenor Cymraeg a golygydd oedd John James Hughes (1842 – 8 Ionawr 1875), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Alfardd. Roedd yn amddiffynydd pybyr i'r iaith Gymraeg, a hawliau Cymru a'i gwerin. Roedd yn frodor o Ynys Môn.

Bywgraffiad

Ganed John James mewn bwthyn gerllaw Carreglefn, ym mhlwyf Llanbadrig yn y flwyddyn 1842. Bu farw ei dad cyn ei eni. Cafodd addysg ddyddiol o saith hyd ddeuddeng mlwydd oed. Wedi hynny, gwasanaethodd am rai tymhorau fel gwas fferm gydag amaethyddwyr yr ardal. Pan yn 16 mlwydd oed symudodd i Fangor, lle y bu am dair blynedd yn gertiwr i adeiladydd, ac wedi hynny am bum mlynedd yn gweini ar seiri meini.

Yn 1866 ymunodd â'r heddlu lle daeth yn argyhoeddedig o anghyfiawnder y drefn Seisnig yng Nghymru a dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar bynciau llosg y dydd gan ennill sylw iddo'i hun. Yn 1870 cafodd ei benodi'n is-olygydd yr Herald Cymraeg. Bu farw yn Ionawr 1875, yn 33 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.

Gwleidyddiaeth

Yn ôl ei fywgraffydd, R. Môn Williams:

"Yr oedd ei sêl dros bopeth Cymreig yn angherddol, a chynhyrfodd y wlad yn erbyn penodiad barnwyr Seisnig i'r llysoedd yng Nghymru. Dinoethodd anghyfiawnder a gorthrwm ymhob cylch, ac amcanodd dros ddylanwad y Wasg er daioni y werin."

Llenor

Cyfranodd Alfardd nifer o gerddi ac erthyglau i gylchgronau Cymraeg y cyfnod. Yn ogystal, ysgrifenodd ddwy nofel yn Gymraeg, sef Yr Hafoty Gwyn ac Ifor Wyn; themâu moesol a dirwestol yn arddull gweddill nofelau Cymraeg y cyfnod a geir ynddynt.

Llyfryddiaeth

  • Ifor Owen. Nofel.
  • Yr Hafoty Gwyn. Nofel.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
John James Hughes is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
John James Hughes
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes