peoplepill id: james-james-6
JJ
Wales
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

Places
Gender
Male
Birth
Place of birth
Betws Ifan, United Kingdom
Place of death
Clifton, United Kingdom
Age
79 years
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd James James (Iago Emlyn) (1800 -5 Ionawr, 1879) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn fardd.

Cefndir

Ganwyd Iago Emlyn ym Metws Ifan, pentref bychan yng Ngheredigion, yn blentyn i David a Mary James. Bu farw ei rieni pan oedd yn ifanc a chafodd ei fagu gan ei fam gu yng Nghastell Newydd Emlyn.

Gyrfa

Bu Iago Emlyn yn gweithio fel masnachwr am nifer o flynyddoedd cyn penderfynu mynd yn efrydydd i Goleg Diwinyddol Caerfyrddin ym 1840. Wedi dwy flynedd o astudio cafodd ei ordeinio'n weinidog gan yr Annibynwyr. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn capeli yn Llanelli, Caerdydd, Casnewydd, a Portishead, Gwlad yr Haf. Ymneilltuodd o'r weinidogaeth tua 1844, ar adeg ei briodas a Jane Mince o Clifton, Bryste, oherwydd problemau iechyd. Bu'n fyw ym Mryste am weddill ei oes.

Bardd a llenor

Roedd yn fardd caeth a rhydd a oedd yn hynod boblogaidd yn ei ddydd. Cafodd ei urddo fel bardd ar brawf yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni ym 1839 a'i hurddo yn aelod o Orsedd y Beirdd flwyddyn a diwrnod yn ddiweddarach.. Yn ogystal รข chyfansoddi cerddi roedd hefyd yn feirniad rheolaidd mewn eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleola chenedlaethol.

Cododd ei feirniadaeth ar Gerdd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1863, peth anghydfod. Cyd feirniad Iago Emlyn oedd Clwydfardd. Pe digwyddid bod anghydfod rhwng dau feirniad ar y pryd roedd y cerddi yn cael eu danfon i ddyfarnwr i ddewis rhwng y ddwy awdl rhoddwyd ar y brig gan y ddau feirniad. Gwilym Hiraethog oedd y dyfarnwr.

Anfonwyd y cyfansoddiadau gyntaf i Glwydfardd, a oedd o'r farn mai awdl gan Talhaiarn oedd y gorau. Wrth anfon y cyfansoddiadau i Iago Emlyn, rhoddodd Clwydfardd wybod iddo am ei benderfyniad. Roedd Iago Emlyn yn anghytuno, ei farn ef oedd mai cerdd gan Gwalchmai oedd yr enillydd. Doedd Iago Emlyn dim o'r farn mae awdl Talhaiarn oedd y gorau na hyd yn oed yr ail orau. Cyn dod i benderfyniad pendant ar y pwnc, anfonodd, yn amhriodol iawn, at y dyfarnwr y pum cyfansoddiad a ystyriodd y gorau yn y gystadleuaeth (nid oedd ymgais Talhaiarn yn un o'r pump). Gofynnodd i'r dyfarnwr ddewis o blith y pump, yr awdl a oedd, yn ei farn ef, y gorau. Cyhoeddodd Gwilym Hiraethog mai awdl gan Emrys oedd y gorau. Penderfynodd Iago Emlyn cyd fynd a beirniadaeth Gwilym Hiraethog, a dyfarnwyd y Gadair i Emrys. Roedd y ffaith bod Talhaiarn yn Eglwyswr, a bod Iago Emlyn, Emrys a Gwilym Hiraethog yn weinidogion gyda'r Annibynwyr yn arwain llawer o bobl i honni bod yr Eisteddfod yn cael ei reoli gan clique o Annibynwyr, a bod y Gadair wedi'i dyfarnu i Emrys dim ond oherwydd ei fod yn weinidog gyda'r Annibynwyr!

Bu Iago Emlyn yn fuddugol mewn eisteddfod yng Nghaerfyrddin ym 1867 am draethawd am ystyr enwau llefydd Cymru. Cafodd ei gyhoeddi fel llyfr ym 1869 (gweler isod), y llyfr cyntaf ar y pwnc i'w hargraffu gan wasg.Yn ei rhagarweiniad i'r llyfr mae hefyd yn un o'r cyntaf i nodi'r perygl i'r iaith a'i thraddodiadau o Seisnigeiddio, cyfieithu neu gyfnewid enwau llefydd Cymraeg sydd ag ystyr a hanes iddynt i enwau Saesneg diystyr. Dadl sy'n parhau hyd heddiw.

Marwolaeth

Bu farw yn ei gartref yn Clifton yn 78 mlwydd oeda chladdwyd ei weddillion ym Mryste.

Cyhoeddiadau

  • Cyfansoddiadau Buddygawl a Cherddi Ereill (1848)
  • Gweithiau Barddonol Iago Emlyn, (1863)
  • The Philosophical Construction of Celtic Nomenclature (1869).

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
James James is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
James James
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes