peoplepill id: iorwerth-ab-y-cyriog
IAYC
Wales
2 views today
5 views this week
Iorwerth ab y Cyriog
Welsh poet

Iorwerth ab y Cyriog

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet
Places
Work field
Gender
Male
Place of birth
Anglesey, Isle of Anglesey, Wales, United Kingdom
Family
The details (from wikipedia)

Biography

Un o Feirdd yr Uchelwyr a fu yn ei flodau tua chanol y 14g oedd Iorwerth ab y Cyriog (fl. tua 1325 - tua 1375). Er nad oes prawf pendant, gellir bod yn weddol hyderus mai mab y bardd Gronw Gyriog oedd ef a'i fod, fel ei dad, yn hannu o Fôn.

Bywyd

Mae'r ychydig a wyddys am y bardd yn deillio o dystiolaeth ei gerddi ei hun a dau gyfeiriad ato yng ngwaith ei gyfoeswyr Sefnyn a Dafydd ap Gwilym. Yn ei farwnad iddo mae Sefnyn yn awgrymu ei fod yn bencerdd gyda meistrolaeth ar ganu yn null Aneirin (h.y. canu mawl), ac mae'n amlwg fod y ddau fardd yn gyfeillion. Yn y cywydd 'Cae Bedw Madog', awgryma Dafydd ap Gwilym fod Iorwerth wedi canu cerdd i ferch yn gyfnewid am dâl - h.y. fod ei fryd er bethau materol. Ond mae'r ffaith fod dau o feirdd mwyaf y ganrif yn cyfeirio ato o gwbl yn dangos fod y bardd yn adnabyddus ac yn fardd o bwys.

Cerddi

Er ei bod yn debygol iawn fod y bardd yn frodor o Fôn ac yn perchen tir yno, i noddwyr ym Meirionnydd y mae'r cerddi ganddo sydd wedi goroesi. Priodolir pum cerdd iddo, sef dwy awdl (un i Dduw a'r llall i ferch o Feirionnydd o'r enw Efa), cywydd i ddiolch am glasb, cywydd marwnad i Einion ap Seisyll o Fathafarn (plwyf Llanwrin, ger Machynlleth), a dychan i Ddrws-y-nant (rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau). Dim ond y tair cyntaf a dderbynir fel gwaith dilys Iorwerth a cheir cryn ansicrwydd am awduraeth y ddwy olaf. Er mai bychan yw cyfanswm y cerddi a gadwyd, ceir llinellau cofiadwy iawn ynddynt, e.e. am Efa sy'n

Lloer morynion llawr Meirionnydd.

Yn ei gywydd i ddioch am glasb ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf ar glawr at Feddygon Myddfai.

Ceir y testunau hynaf o gerddi Iorwerth yn Llyfr Coch Hergest.

Llyfryddiaeth

Golygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,

  • Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau

  1. Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill.


The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Iorwerth ab y Cyriog is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Iorwerth ab y Cyriog
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes