peoplepill id: ifan-dafydd
ID
Wales
1 views today
1 views this week
Ifan Dafydd
Welsh record producer

Ifan Dafydd

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh record producer
Places
Work field
Gender
Male
The details (from wikipedia)

Biography

Noder nad yr un person yw'r actor Ifan Huw Dafydd

Cerddor, cynhyrchydd, cyfansoddwr a pherfformiwr cerddoriaeth pop Cymraeg o Wynedd yw Ifan Dafydd. Roedd yn aelod o'r band Derwyddon Dr Gonzo. Mae'n cyhoeddi cerddoriaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Galwyd ef yn "athrylith cerddoriaeth electroneg" yn y cylchgrawn Y Selar. Mae ei gerddoriaeth Gymraeg hefyd wedi ei chwarae ar orsafoedd radio Saesneg megis BBC Radio 6 Music.

Arddull gerddorol

Mae cerddoriaeth Ifan yn cyfuno'r allweddell a seiniau breuddwydiol electronig neu ddawns ac yn aml yn ailgymysgu neu addasu caneuon. Gwnaeth cân Saesneg Emeli Sandé, ‘Daddy’ (ft. Naughty Boy)’ bu iddo ailgymsgu, groesi 1 miliwn ffrydiad ar Spotify yn 2021..

Un o'i draciau mwyaf cyfarwydd yw fersiwn ganddo yntai a Thallo (Elin Edwards) o gân Aderyn Llwyd a berfformiwyd yn y Gymraeg yn wreiddiol gan Mary Hopkin ond sy'n cyfieithiad o gân Gallagher & Lyle The Sparrow a Llonydd gydag Alys Williams a ryddhawyd ar record finyl las yn 2013.

Cydweithio

Mae llawer o waith Ifan Dafydd yn brosiectau cydweithio gydag artistiaid eraill. Yn eu mysg mae:

  • Eädyth Crawford, Endaf ar trac Disgwyl a ryddhawyd ar gyfer Dydd Miwsig Cymru 2020
  • Carwyn Ellis a Rio 18 a'r gân Olion a ryddhawyd gan Recordiau Côsh
  • Thallo (Elin Edwards) a'r gân I dy Boced a ryddhawyd gan Recordiau Côsh
  • Lleuwen a'r gân Bendigeidfran Recordiau Sain
  • Alys Williams, Llonydd Recordiau Lliwgar Croesodd 50,000 gwrandawiad ar Sound Cloud yn 2013, dros 300,000 erbyn 2018 ac wedi pasio 444,000 ffrydiad ar Spotify erbyn mis Medi 2021.

Disgyddiaeth

Mae Ifan wedi rhyddhau neu ymddangos a chydweithio ar 3 albwm:

  • No Good / Miranda
  • Treehouse
  • Y Record Las

Dolenni

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Ifan Dafydd is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Ifan Dafydd
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes