Iestyn Jones
Quick Facts
Biography
Actor ac archeolegydd o Gymro yw Dr Iestyn Jones (ganwyd Awst 1963).
Ganwyd Iestyn ab Owen Jones yn Aberystwyth, Ceredigion yn Awst 1963 a chafodd ei fagu ym mhentref Llanfihangel-y-Creuddyn. Wedi actio yn y theatr, y teledu a'r radio am nifer o flynyddoedd, mae e bellach yn archeolegydd wrth ei alwedigaeth, wedi iddo gael gradd a doethuriaeth yn y maes o Brifysgol Cymru yn 2011.
Cyflwynodd y gyfres archaeoleg Olion: palu am hanes ar S4C yn 2014. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Trisgell.
Mae'n awdur y llyfr The use of Social Space in Early Medieval Irish Houses with Particular Reference to Ulster (BAR British Series 564; 2012) a'r papur Ulster's Early Medieval Houses yn y cyhoeddiad Medieval Archaeology 57, 2013 (tt. 212-222).
Bywyd personol
Mae'n byw yng Nghaerdydd, yn briod a'r actores Eiry Thomas ac yn dad i ddau o blant.
Cyfeiriadau
- ↑ Darganfod olion teml Rufeinig yn Nyffryn Conwy. S4C (15 Awst 2013). Adalwyd ar 23 Mawrth 2017.
Dolenni allanol
- Iestyn Jones ar Twitter
- Iestyn Jones ar wefan Internet Movie Database
- Proffil ar Academia