Hywel Hughes
Quick Facts
Biography
Miliwnydd Cymreig o Langollen, Sir Ddinbych, oedd Hywel Stanford Hughes (24 Ebrill 1886 – 19 Mawrth 1970). Gadawodd Gymru ac ymsefydlu yn Bogotá, prifddinas Colombia. Gwnaeth ei arian drwy allforio coffi, nwyddau eraill, olew a magu gwartheg ar ddwy fferm enfawr. Bu'n gymwynaswr i Blaid Cymru gan gyfrannu'n hael iddi, yn ariannol. Ar ei dir ef - ar gaeau Plas Tŷ'n-dŵr, ei gartref ger Llangollen - y cynhaliwyd gwersyll cyntaf yr Urdd yn 1929.
Magwraeth a theulu
Fe'i ganed yn yr Wyddgrug ar 24 Ebrill 1886, yn unig fab Owen Hughes, gweinidog Wesleaidd, a'i wraig, Elizabeth merch fferm y "Gefeilie", Llandysilio-yn-Iâl. Roedd ganddynt dair merch, hŷn na Hywel, tair a fu'n flaenllaw iawn gyda'r swffragetiaid: Vyrnwy, Morfydd a Blodwen, ac roedd y tair yn gyfeillion mynwes i Emmeline Pankhurst. Roedd Vyrnwy yn newyddiadurwraig a bu'n golofnydd i'r Daily Mail dan y llysenw 'Anne Temple'. Addysgwyd Hywel yn ysgolion Grove Park, Wrecsam, a Kingswood, Caerfaddon, sefydliad Wesleaidd. Wedi iddo adael yr ysgol prentisiodd gyda milfeddyg yn Llangollen.
Bogotá
Cyfoeth
Roedd dau o ewythrod Hywel Hughes wedi symud i Colombia, De America, ac yn 1907 hwyliodd yntau atyn nhw. Roeddent ill dau wedi sefydlu cwmni masnach a oedd yn mewnforio nwyddau. Ymegniodd Hywel yntau yn y gwaith a chyn hir roedd yn berchennog 27,000 o erwau yn rhanbarth Honda, ac arni datblygodd ransh er mwyn magu anifeiliaid. Cychwynodd allforio coffi a sefydlodd swyddfeydd yn Efrog Newydd a mannau eraill. Pan ddaeth y dirwasgiad economaidd byd-eang yn 1929-33 chwalwyd ei deyrnas, ond drwy ddyfalbarhad, lledodd ei ddiddordebau i feysydd peiriannau amaethyddol, olew, a magu gwartheg. Cefnodd ar allforio coffi. Cyn hir roedd wedi prynu ransh, 'Poponte'.
Herwgipio
Ym mis Ionawr 1980 cafodd ei ferch Teleri Jones a'i mab Owen eu herwgipio gan herwfilwyr yr Ejército de Liberación Nacional. Cafodd eu dal yn y jwngl am saith mis a hanner.