peoplepill id: hugh-owen-of-gwenynog
HOOG
Wales
1 views today
1 views this week
Hugh Owen of Gwenynog
Welsh translator of De Imitatione Christi

Hugh Owen of Gwenynog

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh translator of De Imitatione Christi
A.K.A.
Hugh Owen
Places
Work field
Gender
Male
Birth
Place of birth
Llanfflewyn, Anglesey, Isle of Anglesey, United Kingdom
Death
Age
67 years
The details (from wikipedia)

Biography

Cyfieithydd oedd Hugh Owen (tua 1575-1642). Roedd yn ewyrth i William Griffith, D.C.L, canghellor Bangor a Llanelwy [q.v.], a George Griffith, D.D. esgob Llanelwy.

Y dyddiau cynnar

Ganwyd Owen tua 1575 yn Llanfflewyn, Ynys Môn, yn fab i Owen ap Hugh ap Richard.Pan yn ifanc, hyd at 1622, bu'n gweithio fel goruchwyliwr ar ystad Bodeon, Llangadwaladr, Ynys Môn, a rhwng 1614 a 1618 cymerodd ran bwysig fel capten cartreflu cwmwd Talybolion gydag achosion milwrol ar yr ynys. Priododd ferch i Thomas Bulkeley o'r Groesfechan ger Amlwch, sef Elisabeth, a bu iddynt ddau fab a saith o ferched.

Gwaith

Er nad yw'n sicr a gafodd addysg prifysgol, datblygodd i fod yn berson hyddysg yn y gyfraith ac mewn mwy nag un iaith dramor ('yr hyn ni ddyscodd gan nebyn Athro arall ond efe ei hun gartref yn ei studi ei hunan'). Yn ystod y cyfnod hwn dewisodd grefydd Eglwys Rhufain, ac yn 1622 cafodd swydd fel ysgrifennydd yn Worcester House gyda'r arglwydd Herbert yn Llundain. Cadwodd y swydd hon tan tua chanol 1640 pan symudodd ei gyflogwr o Lundain i gastell Rhaglan pan yr etifeddodd hwnnw iarllaeth Worcester. Ar ôl hynny mae'n ymddangos ei fod wedi penderfynu ymddeol yn ardal Abaty Tyndyrn.

Marw

Bu farw ym mhlwyf Chapel Hill yng ngwanwyn 1642.

Cyfeiriadau

J. H. Davies yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1897-8, 13-15;
W. Llewelyn Williams, ibid., 1901-2, 136-44;
Y Cymmrodor, xvi, 176-7;
Journal of the Welsh Bibliographical Society, I, ii, 59-62;
T. Llechid Jones, ibid., III, iv, 145-51; III, v, 204-19;
A. O. Evans, ibid., IV, i, 15-6;
E. G. Jones yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn, 1938, 42-9;
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Hugh Owen of Gwenynog is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Hugh Owen of Gwenynog
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes