peoplepill id: gwynfryn-morgan-daniel
GMD
Wales United Kingdom
5 views today
6 views this week
Gwynfryn Morgan Daniel
Educationalist and language campaigner

Gwynfryn Morgan Daniel

The basics

Quick Facts

Intro
Educationalist and language campaigner
Work field
Gender
Male
Place of birth
Bryn, Neath Port Talbot County Borough, Wales, United Kingdom
Place of death
Bangor, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Age
56 years
Education
Aberystwyth University
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd Gwyn M. Daniel enw llawn, Gwynfryn Morgan Daniel (1 Awst 1904 - 31 Hydref 1960) yn athro ac ymgyrchydd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol. Ef hefyd oedd Ysgrifennydd Cyffredinol gyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac Ysgrifennydd gyntaf Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

Cefndir a Gyrfa

Ganed Gwyn M. Daniel ym mhentre'r Bryn, Port Talbot. Yn dilyn addysg yn Ysgol Pentre Bryn, ac yn Ysgol Sir y Bechgyn, Port Talbot, aeth yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth lle cyfarfu â'i ddarpar briod Annie Evanso Ystrad, Rhondda. Priododd y ddau ym 1936 a ymgartrefu yng Nghaerdydd lle ganwyd iddynt dair merch, Nia, Ethni a Lona. Tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth, bu'n ganolwr yn nhim rygbi'r Coleg. Yn ddiweddarach, bu ef a'i gyfaill Eic Davies (1909 - 1993) yn bathu termau rygbi, termau a ddaeth yn rhan naturiol o drafod a sylwebaeth rygbi Cymru.

Ym 1932, fe apwyntiwyd ef ac eraill yn athrawon Cymraeg yn ysgolion Caerdydd. Lleolwyd e yn Ysgol y Grange ac Ysgol Herbert Thompson yn Nhrelai.

Diswyddwyd Daniel gan Bwyllgor Addysg Caerdydd oherwydd ei safiad fel Gwrthwynebydd Cydwybodol adeg yr Ail Ryfel Byd. Wedi cyfnod fel clerc cafodd swydd gan Bwyllgor Addysg Morgannwg yn Ysgol Cogan, Penarth. Ym 1952, apwyntiwyd e yn brifathro ysgol gynradd Gwaelod-y-garth.

Gweithgaredd

Rhwng 1934a 1937 bu Gwyn Daniel yn Lywydd Cylch Ysgolion Elfennol Caerdydd Urdd Gobaith Cymru. Yn 1937 roedd yn Ysgrifennydd Adran Athletau Mabolgampau Cenedlaethol yr Urdd yn Stadiwm Maendy, Caerdydd gyda'r bechgynbuddugol yn teithio i Wembley.

Yn 1939 daeth ef yn Ysgrifennydd Caerdydd y Ddeiseb Genedlaethol dros Ymgyrch Senedd i Gymru.

Ymgyrchu dros Addysg Gymraeg

Pencadlys UCAC yn Aberystwyth, Gwyn Daniel oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf yr undeb

Bu i Gwyn Daniel sefydlu Uwch Aelwyd yr Urdd yng Nghaerdydd yn yr 1930au cynnar a fyddai'n cwrdd ar nos Wener.

Yn 1936-37 arweiniodd Gwyn M. Daniel ymgyrch dros sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn Nhŷ'r Cymry. Yn sgil y Rhyfel gwrthwynebiad y Arglwydd Faer Caerdydd a fynnai mai cyfrifoldeb Pwyllgor Addysg y Ddinas oedd sefydlu pob ysgol, aeth Daniel a'i gyd-ymgyrchwyr ati i sefydlu Ysgol Fore Sadwrn cyfrwng Gymraeg a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Cymry yn Heol Gordon, y Rhâth, Caerdydd. Ceisiwyd agor ysgol Gymraeg breifat yn 1940 (ar sail debyg i Ysgol Gymraeg Aberystwyth a agorwyd ar hyd yr un llinellau ym mis Medi 1939), ond bu'n rhaid hepgor y bwriad gan bod gymaint o'r plant wedi eu hel o Gaerdydd i'r cefn gwlad fel efaciwis. Cychwynnwyd ar yr ysgol yn 1943 gan barhau i weithredu drwy gydol yr Ail Ryfel Byd nes 1947.

Oherwydd llwyddiant a rhwydwaith sefydlu'r Ysgol Sadwrn, gwelwyd sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg Caerdydd yn 1949. Dyma oedd y drydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru (ar ôl Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli). Roedd yr ysgol wreiddiol hon mewn dwy ystafell ddosbarth yn Ysgol Saesneg Ninian Park yn ardal Grangetown o Gaerdydd. Maes o law, symudwyd yr ysgol i safle yn ardal Highfields, Llandaf, gan newid yr enw am un daearyddol, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf.

Sefydlu UCAC

Gwyn M. Daniel oedd Ysgrifennydd Cyffredinol gyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac roedd ymhlith y sefydlwyr, yn Nhŷ'r Cymry, ar 6 Rhagfyr 1940. Sefydlwyd y mudiad chwyldroadol hwn wedi cyfnod hir o rwydweithio, llythyru a theithio Cymru, gan Daniel ac eraill. Bathwyd yr enw Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac nid Undeb Athrawon Cymru gan bod eisoes mudiad o'r enw hwnnw'n bodoli, nad oedd yn undeb. Cytunodd UAC i'r enw.

Gwyn Daniel oedd hefyd cadeirydd cyntaf mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

Personol

Roedd Gwyn Daniel ac Annie yn rhieni i dair merch; Nia (Royles bellach), Ethni (Jones bellach), a Lona (Roberts bellach). Roeddent ymysg disgyblion cyntaf yr Ysgol Fore Sadwrn ac Ysgol Bryntaf. Bu farw Gwyn ar 31 Hydref 1960 ym Mangor, o drawiad ar y galon, tra ar daith dros UCAC. Fel eu tad, bu plant Gwyn Daniel hefyd yn frwd a gweithgar dros y Gymraeg ac addysg Gymraeg. Daeth Ethni yn athrawes ieithoedd a bu hi'n brwydro dros addysg Gymraeg i'w mab, Garmon, oedd ag anghenion arbennig. Bu’n allweddol yn sefydlu uned arbennig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Coed-y-Gof a hynny yn wyneb gwrthwynebiad yr awdurdodau. Roedd Ethni hefyd ymhlith athrawon cyntaf Caerdydd y cwrs dysgu Cymraeg, Wlpan, a ysbrydolwyd o Israel, yn yr 1970au.

Gŵr Ethni, a mab yng nghyfraith Gwyn M. Daniel, yw Michael Jones, ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg yn ardal Caerdydd a chynghorydd cyfreithiol RhAG. Ysgrifennodd Michael Jones lyfr a gyhoeddwyd gan RhAG, Twf addysg Gymraeg yng Nghymru: 2012-2020, gan gloriannu peth o ymdrech Gwyn M. Daniel dros addysg Gymraeg.

Cyhoeddiadau

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Gwynfryn Morgan Daniel is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Gwynfryn Morgan Daniel
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes