Gwenno Davies
Quick Facts
Biography
Athrawes a nofelydd o Lansannan yw Gwenno Davies.
Graddiodd mewn Drama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Davies yn bennaeth Drama a chydlynydd Llythrennedd yn Ysgol y Creuddyn. Mae ei nofel wreiddiol gyntaf i blant Gwneud fel maen NHW'n ei Ddweud! wedi ei chyhoeddi fel rhan o gyfres Swigod, Wasg Gomer. Mae ganddi ddrama wreiddiol, Su' mai WAAAAA! wedi ei chyhoeddi gan wasg y Lolfa, fel rhan o gynllun cyfres Dramâu'r Drain, ac mae wedi cyfrannu tuag at sawl cyfrol o straeon byrion a barddoniaeth dros y blynyddoedd. Mae Gwenno hefyd wedi addasu holl gyfrolau'r gyfres Tudur Budr, yn ogystal ag ambell gyfrol o'r gyfres Siriol Swyn gyda Gwasg Gomer. Hi yw enillydd coron Eisteddfod yr Urdd 2005.
Cyhoeddwyd y gyfrol Money Matters: Justin Theway gan wasg Canolfan Peniarth yn 2015.
Cyfeiriadau
- ↑ "www.gwales.com - 1783900695". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Gwenno Davies ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |