peoplepill id: guto-roberts
GR
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

Birth
Death
Age
74 years
The details (from wikipedia)

Biography

Actor Cymreig oedd Guto Roberts (1925 - 1999) a ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiad llwyfan, ffilm a theledu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ganed ef yn 'Isallt Fawr', Cwm Pennant.

Gyrfa

Magwyd Roberts yn Eifionydd.

Efallai mai rhan mwyaf adnabyddus Guto Roberts oedd ei ran fel Ephraim Hughes y cyn-weinidog eisteddfodol, parchu yn y ddrama gomedi Fo a Fe.

Cymerodd ran mewn nifer o gynhyrchidau eraill yn yr 1970au ymlaen gan gynnwys, rhan arweinydd eisteddfod yn y ffilm Hedd Wyn, Mr Evans yng nghyfres deledu 'The Life and Times of David Lloyd George' (1981); y Parch Jenkins yng nghyfres deledu 'Border Country' (1979); Jenkyn Tyler yn 'Hawkmoor' (1978) a Protcor yng nghyfres ddrama 'Brett' (1971).

Yn ei flynyddoedd olaf bu’n gynrychiolydd i Gyhoeddiadau Mei a Gwasg Dwyfor.

Cariad at Fro

Cyflwynodd ffilm cartref fer am Aberdaron sy'n adrodd hanes yr ardal a'i chymeriadau, yn 1967 Nodir ei fod yn byw yn Rhoslan, ger Cricieth arno. Gwnaeth hefyd ffilmio ffilm cartref fer arall 'Helpu Dad' (1970) gyda'r Meic Povey ifanc yn actio ynddo a sgript gan Wil Sam

Gyhoeddwyd llyfr amdanno, 'Y Fo' gan Wasg Carreg Gwalch a golygwyd gan Dr Meredydd Evans.

Gwaddol

Cyflwynodd Guto Roberts dros gant o eitemau gwerthfawr ar ffilm a fideo o ddigwyddiadau yn Eifionydd, sy’n amrywio o angladd Thomas Parry-Williams i bregeth gan Ifor Bowen Griffith a lluniau unigryw Robert Hughes, Uwchlaw’r Ffynnon wrth odre Yr Eifl i'r i’r Archif Sgrin a Sain Genedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Dolenni

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Guto Roberts is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Guto Roberts
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes