peoplepill id: gerallt-pennant
GP
United Kingdom Wales
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

Gender
Male
Place of birth
Bangor, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Age
64 years
Education
Ysgol Gynradd Garndolbenmaen
Ysgol Dyffryn Nantlle
University of Wales Trinity Saint David
The details (from wikipedia)

Biography

Cyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Gerallt Pennant (ganwyd 22 Ionawr 1960).

Bywgraffiad

Ganwyd Pennant ym Mangor, ond magwyd ar fferm Derwin Bach, Bryncir, Eifionydd. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, a graddiodd mewn Cymraeg a Hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n byw ym Mhorthmadog ers 1997.

Gyrfa

Wedi graddio, fe weithiodd fel athro ysgol gynradd am ddwy flynedd. Yng nghanol yr 1980au, ymunodd â'r BBC yng Nghaerdydd fel ymchwilydd ar raglenni teledu plant. Aeth yn ei flaen i gynhyrchu rhaglenni garddio, a'r rhaglen Ar y Tir o Fangor.

Bu'n cyflwyno rhaglenni fel Ffermio rhwng 1997 a 2005 a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen hynod o boblogaidd ar S4C sef Clwb Garddio. Cafodd y cyfle hefyd i gynhyrchu a chyfarwyddo cyfres deledu Iolo Williams, sef Crwydro ar S4C.

Mae Gerallt yn parhau i gyflwyno rhaglen radio boblogaidd am fyd natur, Galwad Cynnar ar Radio Cymru bob bore Sadwrn.

Ers 2007, mae'n ohebydd y gogledd ar raglen Wedi 7 ac yna Heno ar S4C.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol



Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Gerallt Pennant is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Gerallt Pennant
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes