Geraint Vaughan-Jones
Quick Facts
Biography
- Sylwer bod mwy nag un Geraint Vaughan Jones
Person eglwysig, ieithydd a cherddor o Sir Drefaldwyn oedd y Canon Geraint Vaughan-Jones (3 Hydref 1929 – 23 Rhagfyr 2002), sy’n adnabyddus am ei waith yn yr 20g i ddiogelu’r traddodiad canu plygain. Fe’i ganed yn Llanerfyl, yn fab i’r llenor Erfyl Fychan a Gwendolen Jones, a’i addysgu yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed, er iddo adael y coleg cyn cwblhau ei radd.
Roedd yn bianydd ac yn delynor dawnus a chafodd wersi telyn gan Delynores Maldwyn, Nansi Richards. Roedd hefyd yn ieithydd a allai siarad naw iaith, a bu’n byw ar gyfandir Ewrop am ddeuddeg mlynedd, gan dreulio cyfnodau fel cyfieithydd a darlithydd yn yr Almaen, yr Eidal a Sbaen. Ar ôl dychwelyd i Gymru yn dilyn marwolaeth ei fam, cafodd ei ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru ym 1970. Bu’n rheithor Mallwyd gyda Chemaes a Llanymawddwy am ugain mlynedd, gan dreulio cyfran sylweddol o’i yrfa yn Nyffryn Dyfi, un o gadarnleoedd traddodiad y blygain. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyhoeddodd dri chasgliad o garolau plygain gyda gwasg y Lolfa:
- Cyff Mawddwy (1982)
- Hen Garolau Plygain (1987)
- Mwy o Garolau Plygain (1990)
Fe'i gwnaed yn ganon Cadeirlan Bangor ym 1986, ac ymddeolodd yn 1996. Ni bu’n briod. Bu farw ar 23 Rhagfyr 2002, a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr.