Geraint Jones
Quick Facts
Biography
Awdur Cymraeg, cerddor ac ymgyrchydd iaith yw Geraint Jones. Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor, Gwynedd. Roedd yn arweinydd Seindorf Arian Trefor am flynyddoedd ac yn brifathro'r ysgol leol.Mae o bellach yn un o brif arweinwyr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac yn olygydd ar ei chylchgrawn digidol hi, sef Yr Utgorn, a gyhoeddir yn chwarterol ar leinac ar grynoddisg ac a ddosberthir i'r deillion -ac i rai eraill sydd yn talu amdano.
Cafodd Jones ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ei fab, Morgan Jones, yn gyflwynydd teledu sy'n adnabyddus fel prif gyflwynydd y rhaglen chwaraeon Sgorio ar S4C. Mae hefyd yn gyflwyno sgyrsiau Yr Utgorn.
Llyfryddiaeth
- Rhen Sgŵl (1978)
- 'Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor, 1988)
- 'Dianc i Drybini (1991)
- 'Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
- 'Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
- 'Cyrn y Diafol:Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
- 'Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- 'Trefor (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
- 'Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
- 'Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- 'Malcom Allen (Y Lolfa, 2009)
Gweler hefyd
- Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Seindorf Trefor