George William Griffith
Quick Facts
Biography
Hynafiaethydd ac ustus heddwch o Benybenglog, Sir Benfro oedd George William Griffith (21 Ebrill 1584 - 1655?) a oedd hefyd yn dir-feddiannwr ac yn fab hynaf i William Griffith.
Priododd, 22 Tachwedd 1605 gyda Maud Bowen o Lwyngwair a chawsant saith o blant. Penodwyd ef yn ysgrifennydd cyhoeddus yn sir Benfro gan Gyngor Cymru a'r Gororau ac roedd yn ddistain barwniaeth Cemaes. Cynorthwyodd George Owen o Henllys gyda'i waith ymchwil ac ysgrifennodd lawer am hel achau. Ef oedd un o'r boneddwyr olaf yn Ne Cymru i noddi beirdd yn ôl yr hen arferiad.
Yn ystod y Rhyfel Cartref ochrodd gyda Cromwell; ymosodwyd ar Benybenglog gan filwyr y brenin a difrodwyd llawer o'i eiddo. Cafodd ei wobrwyo drwy ei benodi'n aelod o nifer o bwyllgorau seneddol. Claddwyd ef ym Meline.