Ffion Mair
Quick Facts
Biography
Ymchwilydd ac awdur yw Ffion Mair Jones.
Mae'n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Y mae ei chyhoeddiadau'n cynnwys Welsh Ballads of the French Revolution 1793-1815 a golygiad o anterliwt Huw Morys, Y Rhyfel Cartrefol.
Y mae ei diddordebau’n cynnwys gohebiaethau Cymraeg a Chymreig yn y ddeunawfed ganrif ynghyd â genres poblogaidd y faled a’r anterliwt. Yng nghyswllt y ddau genre olaf, canolbwyntiodd ar ddeunydd hanesyddol sy’n ymdrin â Rhyfeloedd Cartref Prydain yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r Chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig, ac ar ddeunydd cronicl megis hanes y Brenin Llŷr.
Cyhoeddwyd y gyfrol Cymru a'r Chwyldro Ffrengig: Y Chwyldro Ffrengig a'r Anterliwt gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2014.
Cyfeiriadau
- ↑ "www.gwales.com - 708326498". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Ffion Mair Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |