peoplepill id: eric-ngalle-charles
ENC
Cameroon
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

Places
Gender
Male
Birth
Place of birth
Cameroon
Age
45 years
Eric Ngalle Charles
The details (from wikipedia)

Biography

Eric Ngalle Charles yn stondin y cylchgrawn Planet yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018.

Llenor, bardd a dramodydd yw Eric Ngalle Charles (ganwyd 1979/1980). Mae'n enedigol o bentref Wovilla yn Buea, Camerŵn, ac wedi byw yng Nghymru ers iddo deithio yno fel ffoadur ym mis Gorffennaf 1999. Roedd yn cael ei adnabod fel Mosre Mo Ngwa ('Ci y Wawr') ar ôl ei daid ar ochr ei fam tan iddo gael ei fedyddio yn 1980.

Mae Charles ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru ac mae wedi'i enwi yn un o'r 'Hay 30' - 30 o bobl ifanc a fydd yn helpu i siapio'r byd yn y tri degawd nesaf. Mae wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei waith ymchwil ar ymfudo, y cof a thrawma, ac mae wedi'i enwi gan Jackie Kay fel un o 10 awdur BAME gorau y Deyrnas Gyfunol. Ers ysgrifennu ei ddrama gyntaf My Mouth Brought Me Here, mae ei waith wedi'i berfformio yng Ngwyl y Gelli, Gwyl Llandeilo a'r London Southbank Centre. Mae ei ffilm fer Eric Ngalle: This is not a Poem wedi teithio trwy wledydd Prydain a chyhoeddwyd ei hunangofiant I, Eric Ngalle: One Man's Journey Crossing Continents from Africa to Europe yn 2019.

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Eric Ngalle Charles is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Eric Ngalle Charles
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes