peoplepill id: edward-jones-12
EJ
Wales
1 views today
1 views this week
Edward Jones
Welsh Wesleyan

Edward Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh Wesleyan
Places
Work field
Gender
Male
Religion(s):
Place of birth
Ruthin, Denbighshire, Wales, United Kingdom
Place of death
Leek, Staffordshire Moorlands, Staffordshire, United Kingdom
Age
59 years
Education
Ruthin School
The details (from wikipedia)

Biography

Un o sefydlwyr y Wesleaid yng Nghymru oedd Edward Jones(9 Mai 1778 – 26 Awst 1837) a anwyd ac a fagwyd ym Mathafarn ger Rhuthun, Sir Ddinbych.

Cafodd ei ordeinio'n weinidog gyda'r Wesleaid yn 1802. Mae ei garreg fedd yn hongian ar y wal y tu ôl i'r pulpud yn yr eglwys Wesleaidd yn Rhuthun: Bathafarn. Bu farw yn Leek, Swydd Stafford.

Cefndir

Ganed Jones yn Rhuthun y pumed o chwech o blant a anwyd i Edward ac Anne Jones. Ar adeg ei eni roedd ei dad yn cadw busnes groser yn y dref. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Rhuthun ar 28 Mai 1778. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Fferm Bathafarn, Llanrhydd ac yno y magwyd Jones ac fel Jones, Bathafarn cafodd ei adnabod ar hyd ei oes. Derbyniodd ei addysg yn ysgol ramadeg Rhuthun.

Gyrfa

Ymadawodd Jones ar ysgol pan oedd tua dwy ar bymtheg mlwydd oed gan symud i Fanceinion i weithio mewn i warws cotwm. Ym 1796 ymunodd â'r gynulleidfa Wesleaidd yn Oldham Street, lle'r oedd y Parchg George Marsden yn weinidog.

Dychwelodd i Gymru ym mis Rhagfyr 1799, pan fu farw ei frawd hynaf, er mwyn cynorthwyo ei dad hynafol gyda gwaith y fferm. Roedd yn benderfynol o gyflwyno'r sefydliad Wesleaidd i'w wlad enedigol gan hynny gwahoddodd weinidogion o gylchdaith Caer i bregethu yn Rhuthun mewn ystafell a llogodd at y diben. Cynhaliwyd y gwasanaethau yn Saesneg. Ar y Suliau pan nad oedd gweinidog o Gaer ar gael arweiniodd Jones gyfarfodydd gweddi eto yn Saesneg gan nad oedd yn gyffyrddus gweddïo yn y Gymraeg wedi arfer a'r Saesneg fel iaith gweddi ym Manceinion. Dygwyd perswâd arno gan un o'r rai oedd yn mynychu'r cyfarfodydd i egluro egwyddorion ei gredoau mewn Cymraeg pob dydd. Cytunodd gwneud hynny a chafodd gwell hwyl arni nag oedd wedi disgwyl. Wedi clywed am ei ymdrechion i gyflwyno'r Gymraeg i addoliad yr enwad cysylltodd y Parch John Bryan, brodor o Lanfyllin a oedd wedi symud i Gaer, gan gynnig cynnal gwasanaeth Cymraeg ac i fagu hyder Jones i bregethu'n ffurfiol yn yr iaith. Wedi hynny bu Jones a Bryan yn cynnal oedfaon Cymraeg bob yn ail ddydd Sul.

Ymledodd yr achos yn gyflym. Creodd cynhadledd Wesleaidd 1800 Rhuthun yn gylchdaith (ardal o weinidogaeth Wesleaidd), a phenderfynwyd sefydlu cenhadaeth Gymreig oddi yno. Ar ôl dwy flynedd o brawf fel pregethwr lleol ordeiniwyd Jones yn weinidog ym 1802. Nid oedd ymlediad yr achos yn cael ei groesawu gan bawb. Wedi cael gwahoddiad i bregethu yn Abergele trodd gynulleidfa o rhwng 3 i 4 mil allan i wrando arno a bu'n rhaid iddo gynnal y gwasanaeth yn yr awyr agored. Cafodd ei arestio a mynd o flaen yr ynadon am gynnal addoliad y tu allan i adeilad trwyddedig. Er i'r ynadon ei rwystro rhag pregethu achosodd y digwyddiad i'w cefnogwyr i sicrhau bod rhes o adeiladau trwyddedig addas yn cael eu hagor ar hyd arfordir y gogledd.

Pan gychwynnodd Jones a Bryan pregethu yn y Gymraeg dim ond un gylchdaith Cymraeg (ardal o weinidogaeth Wesleaidd) oedd yng Nghymru ond dan ei weinidogaeth ffurfiwyd sawl un arall a bu Jones yn gwasanaethu mewn nifer ohonynt yn ystod y 14 mlynedd nesaf:

  • Rhuthun 1802 3
  • Caernarfon, 1804-5
  • Machynlleth, 1806
  • Aberystwyth, 1807
  • Llandeilo, 1808
  • Caerfyrddin, 1809-10
  • Castell-nedd, 1811
  • Abertawe, 1812
  • Caerdydd, 1813-14;
  • Cymru Lerpwl 1815-16

Wedi marwolaeth y Parch Thomas Coke, olynydd John Wesley fel arweinydd y Wesleaid ym 1814 penderfynodd yr enwad i geisio sicrhau dyfodol eu cylchdeithiau mwy sefydledig yn Lloegr yn hytrach na chenhadu yng Nghymru. Cafodd nifer o'r gweinidogion Cymraeg eu danfon i wasanaethu yn Lloegr ym 1816 gan gynnwys Jones. Doedd Jones ddim yn hapus wrth droi cefn ar yr eglwysi a'r cylchdeithiau y bu'n chware rhan mor flaenllaw yn ei sefydlu ond nid oedd dewis ganddo. Bu'n gweinidogaethu yn yr Eglwys Wen, Swydd Amwythig, 1817-18; Knaresborough, 1819-21; Dewsbury, 1822-23; Oldham, 1824-25; Northwich, 1826-27; Clithero, 1828; Durham, 1829-30 ; Cylchdaith Saesneg Wrecsam, 1831-32 ; Cylchdaith Saesneg Hwlffordd, 1833-35 a Leek, 1836.

Teulu

Priododd â Dorothy Roberts o Blas Llangwyfan ar 4 Gorffennaf 1806 a bu iddynt o leiaf bump o blant.

Marwolaeth

Bu farw Jones yn Leek, Swydd Stafford yn 59 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Fethodistaidd Mount Pleasant Leek. Pan gaewyd capel Mount Pleasant ym 1892, symudodd Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd ei garreg bedd o Leek a'i osod o flaen Capel Coffa Edward Jones, Bathafarn, capel y Wesleaid yn Rhuthun.

Gwaddol

  • Pan adeiladwyd capel newydd ei enwad yn Rhuthun ym 1865 fe'i henwyd yn Gapel Coffa Edward Jones, Bathafarn.
  • Pan sefydlwyd cylchgrawn ar gyfer Cymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru fe'i henwyd yn Bathafarn er anrhydedd i gyfraniad Jones i'r achos

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Edward Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Edward Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes