peoplepill id: edgar-chappell
EC
United Kingdom Wales
1 views today
3 views this week
Edgar Chappell
Welsh sociologist

Edgar Chappell

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh sociologist
A.K.A.
Edgar Leyshon Chappell Edgar L. Chappell
Gender
Male
Place of birth
Ystalyfera, Neath Port Talbot County Borough, Wales, United Kingdom
Place of death
Cardiff, City and County of Cardiff, Wales, United Kingdom
Age
70 years
Education
Cardiff University
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd Edgar Leyshon Chappell (8 Ebrill 1879 – 26 Awst 1949) yn arbenigo mewn cwestiynau cymdeithasol, yn arloesydd ad-drefnu pentrefi a threfi, ac yn awdur.

Ganwyd ef ar 8 Ebrill 1879, yn Ystalyfera yn fab i Alfred Chappell ac Ellen Watkins.Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yna bu'n brifathro ysgol Rhiw-fawr, Pontardawe am gyfnod.Amlygwyd ei ddiddordeb mewn materion cymdeithasol yn 1911, pan y cyhoeddwyd pamffledyn o'i waith, Gwalia's Homes, yn Ystalyfera.

Yn 1912 dechreuodd gynorthwyo'r Athro H. Stanley Jevons mewn gwaith ymchwil i faterion economaidd (gan mwyaf) - gwaith a olygai drafaelio a darlithio yn ne Cymru, ac ysgrifennu pamffledi ac erthyglau i'r wasg ar bynciau megis datblygiad pentrefi a threfi, gerddi, etc. Yn 1917 fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd adran Gymreig comisiwn y Cabinet Rhyfel ar yr anesmwythder yn y byd diwydiannol; y flwyddyn ddilynol cafodd ei ddewis gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth i chwilio i mewn i gwestiwn cyflogau a thelerau gwaith gweithwyr ar y tir yn Ne Cymru. O 1918 hyd 1921 yr oedd yn arolygwr yn adran tai o dan y Weinyddiaeth Iechyd; yn 1921 fe'i gwnaethpwyd yn ysgrifennydd ymchwil daleithiol arbennig yn Ne Cymru a wneid gan yr un Weinyddiaeth.

Wedi iddo adael y Weinyddiaeth Iechyd bu Chappell yn ffurfio ac yn arolygu cwmnïau ynglyn â datblygu tir, etc., yn Llundain a Chaerdydd - gw. rhestr o'r cwmnïau hyn yn Who's Who in Wales, 1937. Efe oedd un o sylfaenwyr (ac, am rai blynyddoedd, ysgrifennydd) y ‘Welsh Housing and Development Association’; golygodd gyfrolau 1916, 1917, a 1918 The Welsh Housing and Development Year Book. Yn ddiweddarach bu'n ddiwyd yn ei waith ar wahanol gynghorau - cyngor sir Morgannwg yn eu plith - a'u pwyllgorau. Fe'i dewiswyd gan y Cyngor Cyfrin yn un o'i gynrychiolwyr ar Lys Llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru; cafodd radd M.A. (‘er anrhydedd’) gan Brifysgol Cymru yn 1948. Ar hyd y blynyddoedd bu'n ysgrifennu ysgrifau, pamffledi, a llyfrau mwy; bu hefyd am gyfnod yn golygu 'r Welsh Outlook. Dyma deitlau rhai o'i weithiau - Pithead and Factory Baths (gyda J. A. Lovat-Fraser ), 1920; The Housing Problem in Wales, 1920; History of the Port of Cardiff, 1939; Historic Melingriffith, 1940; The Government of Wales, 1943; Wake up, Wales … 1943; Cardiff's Civic Centre, a Historical Guide, 1946.

Pr. Alice, merch Caleb Thomas, Ystalyfera, a bu iddynt fab. Bu farw yng Nghaerdydd 26 Awst 1949.

Cyfeiriadau

Ffynonellau

  • Who's who in Wales, 1937;
  • Western Mail, 27 Awst 1949.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Edgar Chappell is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Edgar Chappell
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes