Dyfan Roberts
Quick Facts
Biography
Actor a chynhyrchydd o Gymro yw Dyfan Edwards Roberts (ganwyd Mehefin 1949). Mae'n adnabyddus am chwarae'r brif ran yn Un Nos Ola Leuad ac fel llais yr adroddwr ar Superted.
Ym mis Mai 2009, dechreuodd weithio fel Swyddog Datblygu'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor.
Bywyd cynnar
Fe'i magwyd yn Nolgellau ac aeth i'r Ysgol Ramadeg yn y dref (Ysgol y Gader erbyn hyn).. Mae'n frawd i'r canwr gwerin Arfon Gwilym.
Gyrfa
Ymunodd a Chwmni Theatr Cymru yn 1970, cwmni oedd yn cael ei arwain gan Wilbert Lloyd Roberts, ac am bedair blynedd roedd y cwmni yn teithio yn creu perfformiadau mewn neuaddau pentre a neuaddau ysgol. Agorwyd Theatr Gwynedd ym Mangor yn Rhagfyr 1974 gan greu cartref proffesiynol i theatr yng ngogledd-orllewin Cymru. Roedd Dyfan yn un o'r actorion cyntaf i berfformio ar lwyfan y theatr a'r cynhyrchiad proffesiynol cyntaf yno oedd pantomeim Pwyll Gwyllt gyda Dyfan yn chwarae'r prif gymeriad 'Gwenyn'.
Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Theatr Bara Caws yn 1976.
Yn yr 1980au roedd yn nodedig fel digrifwr a dynwaredwr ar nifer o raglenni adloniant S4C yn cynnwys Goglis, Y Cleciwr, Plu chwithig, Sebon a bocs a Tebyg at ei debyg. Bu'n cydweithio gyda Caryl Parry Jones ar raglenni comedi fel Caryl a Dyfan yn y bocs, Bocs Dolig Caryl a Dyfan a oedd yn dynwared sêr S4C y cyfnod.
Mae wedi lleisio nifer o gymeriadau ar gyfer cartwnau a drosleisiwyd i'r Gymraeg yn cynnwys Asterix, Sion Hafard - Gofotwr a Smot.
Yn y 1990au cychwynnodd gwmni teledu Llun y Felin gyda'i wraig Angela. Cynhyrchodd y cwmni cyfresi plant fel Anturiaethau Jini Mê, Cabarê Cwasar, Bolgi Bach ac Yr Awr Cyn y Wawr yn ogystal a'r ffilm Y Mynydd Grug (1997).
Ffilmyddiaeth
- The Corn Is Green (1979) (ffilm deledu) .... Gwyn
- Superted (1982) (cyfres deledu, animeiddio) .... Adroddwr
- Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (1982) (cyfres deledu) .... Heddgeidwad, Postman Robaji, cymeriadau eraill
- The District Nurse (1984) (cyfres deledu, 1 pennod) .... Shwn Rodway
- Penyberth (1985) (drama deledu, BBC Cymru)
- Stormydd Awst (1988) (ffilm deledu)
- Anturiaethau Jini Mê (1991) (cyfres deledu) .... Adroddwr
- Un Nos Ola' Leuad (1991) .... Dyn
- The Cormorant (1993) (teledu) .... Glyn
- Byd Guto Gwningen a'i Gyfeillion (1994) (animeiddio, 1 pennod) .... Teiliwr Caerloyw, Llygod, lleisiau eraill
- Smot a Swyn y Nadolig (1996) (animeiddio) .... Sam, Bili, Siôn Corn, lleisiau eraill
- Nodi - Anturiaethau Gwlad y Teganau (1997) (animeiddio, 5 pennod) .... Adroddwr, Cled Clustiau, Tybi Bach, lleisiau eraill
- Y Mynydd Grug (1997) .... Stiward
- Smot yn y Carnifal (1998) (animeiddio) .... Sam, Taid, Bili, lleisiau eraill
- Tecwyn y Tractor (1998) (cyfres deledu) .... Llais
- Porc Peis Bach (2000) (cyfres deledu) .... Arwerthwr
- Dic a Dei a Delyth (2001) (animeiddio) .... Llais