peoplepill id: derec-williams
DW
1 views today
1 views this week
Derec Williams
schrijver

Derec Williams

The basics

Quick Facts

The details (from wikipedia)

Biography

Am y darlledwr, gweler Deryk Williams

Athro ac un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn oedd Derec Williams (Tachwedd 1949 – 27 Mai 2014).

Fe'i ganwyd yn Amlwch, Ynys Môn a bu'n byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala ers blynyddoedd. Bu Derec yn athro mathemateg yn Llanidloes ac yn Ysgol y Berwyn, Y Bala. Sefydlodd Theatr Maldwyn gyda ei ffrind, y prifardd Penri Roberts a Linda Gittins, yn 1981.

Bu farw yn sydyn yn 2014 gan adael ei wraig Ann a thri o blant - Branwen, Meilir ac Osian.

Mae ei blant wedi dilyn trywydd cerddorol hefyd. Bu'r tri yn cydweithio i ysgrifennu, cyfansoddi a chyfarwyddo sioe ieuenctid Dyma Fi i'w berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd 2014 ond gohiriwyd y perfformiad oherwydd marwolaeth eu tad. Mae Branwen ac Osian yn aelodau o Siddi, Candelas a Cowbois Rhos Botwnnog, a Meilir yn actor a chanwr.

Cyfeiriadau

  1. Teyrngedau i Derec Williams sydd wedi marw yn 64 oed , BBC Cymru, 28 Mai 2014.Cyrchwyd ar 24 Mai 2016.
  2. 'Yn y gwaed' , BBC Cymru, 9 Mai 2014.Cyrchwyd ar 24 Mai 2016.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Derec Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Derec Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes