peoplepill id: david-john-james
DJJ
Wales
1 views today
1 views this week
David John James
Welsh businessman and philanthropist

David John James

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh businessman and philanthropist
A.K.A.
D. J. James David J. James
Places
Work field
Gender
Male
Place of birth
London, England, UK
Age
79 years
Education
Ystrad Meurig Grammar School
The details (from wikipedia)

Biography

Gŵr busnes llwyddiannus, Cristion, dyngarwr a chefnogwr brwd o addysg a diwylliant Cymru oedd Syr David John James, a adnabuwyd fel rheol fel D.J. James (13 Mai 1887 – 7 Mawrth 1967). Mae'n adnabyddus am ei sefydliad elusennol, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Gyrfa

Ganed ef yn Llundain ar 13 Mai 1887 i deulu o Geredigion. Dychwelodd y teulu i'r hen gartref ym Mhantyfedwen, Pontrhydfendigaid, pan oedd yn fachgen yn ifanc.

Dychwelodd i Lundain i ofalu am fusnes laeth y teulu a threuliodd weddill ei fywyd yno ac yn Barcombe, Dwyrain Sussex. Priododd â Grace Lily Stevens ar 24 Ebrill 1924. Er iddo barhau â diddordebau busnes yn y diwydiannau llaeth a phrynu gwenith cofir ef yn arbennig am berchen 13 sinemâu yn Llundain. Adeiladodd y cyntaf o super-cinemas Llundain gyda 2,000 o seddi a'i hagor yn 1920, sef y Palladium, Palmer's Green. Yn y 1930au gwerthodd bob un ohonynt, ac eithrio Stiwdio 1 a 2 yn Oxford St. Bu'n gadeirydd tri o gwmnïoedd cyn ymddeol yn 1957.

Yn ystod ei fywyd rhoddodd symiau sylweddol i'r enwadau Anghydffurfiol ac i'r Eglwys yng Nghymru i wella cyflogau a phensiynau gweinidogion, i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, i bentref Pontrhydfendigaid ac i lu o achosion eraill.

Elusenwr

Yn sgîl gwneud ei ffortiwn yn Llundain, daeth D.J. James yn elusennwr a chefnogwr brwd o ddiwylliant, addysg a chrefydd yng Nghymru.

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

Yn 1952 sefydlodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen yn 1952 a gweinyddwyd hi o Lundain. Ei phwrpas oedd hybu achosion crefyddol, addysgiadol ac elusennol yng Nghymru.

Diddymwyd hon yn 1957 pan sefydlodd Ymddiriedolaeth Cathryn a'r Fonesig Grace James (a enwyd ar ôl ei fam a'i wraig). Yn 1967 sefydlodd ail Ymddiriedolaeth yn enw John (ei dad) a Rhys Thomas James (ei frawd a fu farw'n yn ifanc). Ddiwedd y 1950au sefydlwyd Eisteddfodau Pantyfedwen ym Mhontrhydfendigaid (Eisteddfod Teulu James neu Eisteddfod y Bont ar lafar); Aberteifi (Eisteddfod Coffa John James); a Llanbedr Pont Steffan (Eisteddfod Rhys Thomas James).

Bu'n ymwneud â symud gweinyddiaeth yr ymddiriedolaethau i Aberystwyth ond bu farw cyn agor y swyddfeydd yno'n swyddogol yn 1968 yn Stryd y Farchnad. Fel cyd-ddigwyddiad llwyr, o gofio gyrfa D.J. James ym maes datblygu sinemâu yn Llundain, adeiladwyd y swyddfeydd newydd ar safle hen sinema'r Palladium.

Yr Urdd

Elwodd Urdd Gobaith Cymru yn hael ganddo. Prynodd westy'r Grand Hotel yn Y Borth i letya 100 o bobol a’i fedyddio ym Mhantyfedwen cyn ei gyflwyno fel rhodd i’r mudiad. Cyfrannodd hefyd at nifer o weithgareddau eraill y mudiad.Cyflwynodd Gwpan Pantyfedwen (sy’n fwy na chwpan yr FA) yn wobr flynyddol i bencampwyrpêl-droed yr Urdd a Chwpan Teulu Pantyfedwen, ycwpan arian mwyaf yn y byd (nodwedd arbennig o brifwyl yr Urdd am flynyddoedd) i’r Sir uchaf ei marciau yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn.

Anrhydeddau

Derbyniodd radd LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1957, cafodd ei urddo'n farchog yn 1959, derbyniwyd ef i Urdd Wen Gorsedd y Beirdd yn 1965 a'r un flwyddyn cyflwynwyd rhyddfraint bwrdeistref Aberystwyth iddo.

Tynnwyd darlun o Bantyfedwen gan yr artist Wynne Melville Jones i goffau Syr David ac arddangoswyd y llun yng Nghanolfan Cymry Llundain yn Gray's Inn Rd yn 2013014.

Marw

Bu farw ar 7 Mawrth 1967 a'i gladdu ym mynwent Ystrad Fflur.

Dolenni

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
David John James is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
David John James
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes