David Hughes
Quick Facts
Biography
Roedd Y Parchedig David Hughes BA (21 Mehefin, 1813 – 3 Mehefin, 1872) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn awdur.
Cefndir
Ganwyd Hughes ar fferm Cefn uchaf, Llanddeiniolen, yn fab i Hugh Hughes ac Anne ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Athrofa'r Efengylwyr yn Hackney, Llundain a Phrifysgol Glasgow lle graddiodd BA ym 1841.
Gyrfa
Bu Hughes yn cadw ysgol yn Llanddeiniolen ar y cyd a'i frawd hŷn Griffith. Yn ôl adroddiad yn y Geninen Yr oedd y ddau yn hynod dirion at fechgyn da, ond yn llym iawn yn erbyn rhai direidus, neuy neb a droseddai drwy siarad Cymraeg.
Dechreuodd bregethu yng Nghapel Bethel, Llanddeiniolen pan oedd yn 19 mlwydd oed, tua 1832. Wedi gorffen ei astudiaethau yn Llundain a Glasgow cafodd ei ordeinio i weinidogaeth yr Annibynwyr yn Llan Sain Siôr ar 14 Medi 1841 gan ddod yn weinidog ar achosion ei enwad yn Llan Sain Siôr a Moelfre. Arhosodd yn Llan Sain Siôr hyd 1846 pan symudodd i Lanelwy. Yn ystod ei gyfnod yn Llanelwy bu'n olygydd ar gylchgrawn misol byrhoedlog o'r enw Y Beirniadur.
Wedi blwyddyn y Llanelwy symudodd maes ei weinidogaeth i Gapel Great Jackson Street ym Manceinion. Ym 1847 derbyniodd cais gan Y Parch Dr Arthur Jones i'w gynorthwyo i gadw un o Ysgolion elusennol Dr Daniel Williams ym Mangor.. Ni fu ganddo ofalaeth capel ym Mangor ond parhaodd i bregethu'n rheolaidd. Aeth yn ôl i fod yn weinidog ym mis Tachwedd 1855 pan dderbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Gapel Saron, Tredegar. Parhaodd yn weinidog Saron hyd ei farwolaeth.
Gyrfa lenyddol
Yn ystod ei gyfnod yn Llanelwy bu'n olygydd ar gylchgrawn misol byrhoedlog o'r enw Y Beirniadur. Ysgrifennodd llawer i'r cyhoeddiadau misol Cymreig, yn enwedig i'r Dysgedydd. Cyfrannodd nifer fawr o ysgrifau i'r Gwyddoniadur Cymreig. Cyhoeddodd dau lyfr: Geiriadur Ysgrythrol a Duwinyddol (1852) ac Elfenau Daearyddiaeth (1859). Bu hefyd yn olygydd ar ddiwygiad o eiriadur Thomas Edwards (Caerfallwch). Cyfieithodd rhan o An Introduction to the Critical Study and Knowledge of the Holy Scriptures gan Thomas Hartwell Horne i'r Gymraeg fel Arweiniad at Efrydiaeth Feirniadol a Gwybodaeth Sanctaidd ym 1854.
Teulu
Roedd yn briod a merch o'r enw Jane, merch o Lanbadrig, Ynys Môn. Ganwyd eu mab hynaf Y Parch David Griffith Hughes ym 1858, sy'n awgrymu eu bod wedi priodi rhywbryd cyn hynny.
Marwolaeth
Bu farw Hughes yn ei gartref yn Georgetown, Tredegar yn 58 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn Golau.