peoplepill id: d-densil-morgan
DDM
Wales
1 views today
1 views this week
D. Densil Morgan
Welsh scholar

D. Densil Morgan

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh scholar
Places
Work field
Gender
Male
Birth
Awards
Fellow of the Learned Society of Wales
(2011)
The details (from wikipedia)

Biography

Mae'r Athro Dafydd Densil Morgan DPhil DD FLSW wedi bod yn Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, er 2010 ac yn Brofost Campws Llambed er 2011. Cyn hynny bu'n aelod o Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru, Bangor pan gafodd ei benodi yn 1988 yn ddarlithydd mewn Cristionogaeth Gyfoes. Tra ym Mangor, bu'n Ddeon y Celfyddydau, Pennaeth ei Ysgol ac yn Bennaeth ar y Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau. Dyfarnwyd cadair bersonol iddo yn 2004 a chyn hynny roedd yn Uwch-ddarlithydd ac yn Ddarllenydd. Graddiodd o Fangor yn 1979 ac fe aeth i astudio am radd D Phil yng Ngholeg Regent's Park, Rhydychen cyn mynd ymlaen i weinidogaethu yng nghapeli'r Bedyddwyr yn ardal Pen-y-groes,Llanelli am chwe mlynedd. Yn 2006 dyfarnwyd iddo radd DD gan Brifysgol Cymru am ei waith cyhoeddedig. Etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2011. Ef yw golygydd presennol Y Traethodydd.

Bywgraffiad

Ei ddiddordeb ymchwil gwreiddiol oedd Ymneilltuaeth Cymru yn y 18g ond wedi dychwelyd i Fangor yn 1988 canolbwyntiodd ar Hanes a Syniadaeth Gristnogol yn yr 20g. Gellir casglu fod D. Densil Morgan yn ddiwinydd neo-uniongred yn nhraddodiad y diwinydd o'r Swistir, Karl Barth. Cydnabu yn rhagair ei gyfrol 'Cedyrn Canrif' (2001) ei fod yn ysgrifennu o safbwynt arbennig. O safbwynt 'Uniongred clasurol yr eglwys yn ôl credoau Nicea a Chalcedon fel y'i ailfynegwyd gan Ddiwygwyr Protestanaidd yr 16g a'i ddehongli o'r newydd i'n cyfnod ni gan Karl Barth.' Yng Nghymru felly gellid ei leoli yn llinach Awstinaidd R. Tudur Jones rhagor na llinach Belagaidd Pennar Davies.

Cyhoeddodd gyfrol ar Karl Barth yng nghyfres 'Y Meddwl Modern' (1992) a chasglodd ynghyd ysgrifau J. E. Daniel, disgybl disgleiriaf Barth yng Nghymru, a lluniodd ragymadrdodd iddynt yn y gyfrol 'Torri'r Seiliau Sicr' (1993). Yn fwy diweddar cyhoeddodd arweiniad Saesneg i waith Barth yng nghyfres yr SPCK (2010).

Yn ogystal a'i ddiddordeb yn Barth, cyhoeddodd ar hanes Calfiniaeth yng Nghymru yn cynnwys cyfrolau ar y diwinydd R. S. Thomas (Abercynon), Lewis Edwards o'r Bala ac Edward Matthews Ewenni.

Llyfryddiaeth

  • Edward Matthews, Ewenni, Gwasg Pantycelyn 2012
  • The Span of the Cross, 2il argraffiad, University of Wales Press, 2011
  • The SPCK Introduction to Karl Barth, SPCK 2010
  • Barth Reception in Britain, T & T Clark International 2010
  • Lewis Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru 2009
  • Dyddiadur America, Carreg Gwalch 2009
  • Wales and the Word, University of Wales Press 2008
  • O'r Pwll Glo i Princeton: Bywyd a Gwaith RS Thomas, Abercynon, Bangor 2005
  • The Humble God, Canterbury Press 2005
  • Pennar Davies, Gwasg Prifysgol Cymru 2003
  • Cedyrn Canrif: Ysgrifau Ar Grefydd a Chymdeithas Yng Nghymru Yn Yr Ugeinfed Ganrif; Gwasg Prifysgol Cymru 2001
  • The Span of the Cross, University of Wales Press 1999
  • Thomas Charles o'r Bala, Gwasg Prifysgol Cymru, 1914
  • Y Deugain Mlynedd Hyn: Diwinyddiaeth yng Nghymru, 1972-2015, Cyhoeddiadau'r Gair, Chwilog, 2015

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
D. Densil Morgan is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
D. Densil Morgan
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes