Ceri Dupree
Quick Facts
Biography
Perfformiwr drag Cymreig ydy Ceri Dupree (ganed Ceri R. Jones yn Llansamlet, Abertawe ar 30 Ionawr 1964).
Ei fywyd cynnar
Ganwyd Ceri yn ardal Llansamlet o ddinas Abertawe. Pan oedd yn flwydd oed, symudodd ei rieni i ardal Cwmdu yn Fforestfach a mynychodd Ysgol Gynradd Gendros. Ei chwaer yw'r gantores Ria Jones.
Pan yn blentyn, arferai ei rieni fynd ag ef i weld y pantomeim blynyddol yn Theatr y Grand, Abertawe, gan gynnwys perfformiadau gyda Ryan a Ronnie yn ystod y 1970au. Roedd ei dad, Malcolm yn adnabod Ryan Davies am ei fod yntai yn perfformio yng nghlybiau'r gweithwyr yn ne Cymru. Roedd Ceri wrth ei fodd yn gweld perfformwyr megis Frankie Howard, Larry Grayson, Ken Dodd a Bob Monkhouse a datblygodd hyn awydd Ceri i ddilyn gyrfa yn perfformio.
Treuliodd Ceri beth amser yn astudio Stanley Baxter, Dick Emery a Danny La Rue ac ar y 9 Medi, 1983, gwnaeth ei berfformiad proffesiynol cyntaf yn Theatr y Palas, Abertawe.
Mae ef bellach yn byw ym Penarth, yng Nghaerdydd.
Natur ei berfformiadau
Mae Dupree yn perfformio'n rheolaidd ledled y Deyrnas Unedig ond hefyd yn rhyngwladol yng Ngwlad Groeg, Portiwgal a De Affrica.
Yn ystod ei sioe, mae'n dynwared sêr benywaidd megis Elizabeth Taylor, Zsa Zsa Gabor, Marlene Dietrich, a Margaret Thatcher. Yn ystod ei yrfa (sydd wedi para dros chwarter canrif, mae ef wedi perfformio yn West End Llundain gan gynnwys The Café de Paris, Talk of London, The Stork Club, Le Beat Route, Ronnie Scott's Jazz Club a Pizza on the Park.
Teledu
Mae Ceri hefyd wedi creu cyfres deledu pedair rhaglen ar gyfer ITV1 o'r enw Ceri Dupree Unfrocked. Mae ef hefyd wedi ymddangos ar nifer o sioeau siarad, rhaglenni adloniant ysgafn a nifer o gyfweliadau radio a chyda'r wasg.
Dolenni allanol
- Gwefan Swyddogol Ceri Dupree
- Ceri Dupree ar wefan Internet Movie Database
- Ceri Dupree ar Twitter