Cen Williams
Quick Facts
Biography
- Noder: nid Dr Cen Williams yw gwrthrych y bywgraffiad hwn.
Roedd Cen Williams, neu'n gyffredin, Cen Cartŵn Williams (7 Ebrill 1946 – 24 Mai 2020) yn ddylunydd ac aelod gweithgar o gymuned Gymraeg Caerdydd o'r 1970au ymlaen gan ddylunio amrywiaeth eang o gloriau llyfrau, recordiau a thaflenni Cymraeg a chyfrannu cartwnau i lyfrau a chylchgronau. Magwyd yng Ngwalchmai. Bu'n athro yn ysgol plant anghenion arbennig, Ysgol y Llys, Llanisien, Caerdydd hyd ei ymddeoliad.
Dylunyddâ
Roedd Cen Williams yn adnabyddus am ei gartŵnau a'i arddull unigryw. Bu'n gyfrannwr cyson i bapur bro Caerdydd, Y Dinesydd o'r cychwyn gan ddarlunio bywyd Cymraeg y brifddinas. Cyhoeddwyd detholiad o'i gartwnau a oedd wedi ymddangos yn y papur dros y 25 mlynedd oddi ar sefydlu'r Dinesydd yn y rhifyn o'r Dinesydd a gyhoeddwyd yn Ebrill/Mai 1998 i ddathlu pen-blwydd y papur yn 25 oed.
Bu hefyd yn dylunio cloriau Recordiau Sain gan gynnwys rhai o recordiadau enwocaf y cwmni fel Cwm-Rhyd-y-Rhosyn a recordiwyd gan Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones. Yn sgil llwyddiant y record hir, daeth cyfres llyfrau lliwio a phosteri – pob un yn cynnwys darluniau Cen Williams.
Dyluniodd a chyfrannodd i doreth o lyfrau a chylchgronau Cymraeg. Ymysg ei enwocaf oedd ei gartŵnau i gyd-fynd â nofel Dyddiadur Dyn Dŵad gan Dafydd Huws oedd yn portreadu a dychanu bywyd Caerdydd yn yr 1970au. Seiliwyd y nofel ar golofn gyson gan Dafydd Huws i'r Dinesydd. Yn ôl Siôn Jobbins, roedd Cen yn "Un o genhedlaeth 'Dyddiadur Dyn Dŵad' ifanc, gwych drawsffurfiodd a Chymreigiodd Caerdydd yn 1970au. Un o bobl Aelwyd yr Urdd, Conway Rd. Dyn hoffus, tipyn o arwr i mi'n blentyn. Coffa da amanno. Roedd yn un o'r criw gwych roddodd oriau lawer yn ddi-dal i helpu aelwyd yr Urdd Conway Rd neu Ysgol Bryntaf. Dyma'r bobl ymladdodd dros addysg Gymraeg ond hefyd i wneud yr iaith yn rhywbeth bywiog, hapus a chymdeithasol."
Roedd yn gartwnydd i'r cylchgrawn wythnosol, Golwg a'r cartŵn olaf ganddo i'w chyhoeddi gan y cylchgrawn oedd cartŵn o deyrnged i'w ffrind, yr awdur Dafydd Huws ar 23 Ebrill 2020, gwta fis cyn ei farwolaeth ei hun.
Sefydlu Clwb Pêl-droed Cymry Caerdydd
Roedd yn bél-droediwr ac yn un sylfaenwyr Clwb Pel-droed Cymric (clwb pêl-droed Cymraeg ei hiaith yng Nghaerdydd) yn 1969. Yn ôl Wynford Ellis Owen "roedd yn caru chwarae a gwylio pêl-droed yn fwy na dim byd arall, a byddai’n dadlau a thrafod rhyfeddodau’r gêm hyfryd yn ddi-baid."
Roedd yn ddilynwr brwd o bêl-droed a bu iddo gyflwyno cartŵn i Tim Hartley yn dilyn penderfyniad C.P.D. Dinas Caerdydd i ddychwelyd i chwarae yn ei lliwiau glas a gwyn traddodiadol wedi cyfnod yn chwarae mewn coch.
Gwaith Elusennol
Bu Cen Williams yn gwerthu ei gartŵns ar gais, gan roi’r arian at elusen fu’n helpu dioddefwyr myasthenia gravis, cyflwr sy’n effeithio ar y cyhyrau a chyflwr y bu ei chwaer yn dioddef ohono.
Bu iddo hefyd sefydlu Cyfeillion Ystafell Fyw Caerdydd gan gynorthwyo i ganfod dodrefn a ffyrdd o godi arian i'r elusen.
Aelwyd yr Urdd
Roedd Cen yn un o griw Aelwyd yr Urdd, Conway Rd Caerdydd yn yr 1970au. Lleoliad a dynnodd ynghyd criw eang o bobl a weithiodd dros y Gymraeg a sefydlu sefydliadau Cymraeg newydd yng Nghaerdydd. Bu'n cynorthwyo gyda chynnal 'Aelwyd' yr Urdd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, Caerdydd - yr unig ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd ar y pryd. Er nad oedd yn athro, yn ôl Wynfford Elis Owen, "roedd o’n athro par excellence gan ddysgu plant a phobol ifanc ledled Cymru wir gwerth celf a llawenydd creadigrwydd. Roedd o’n dynnwr coes eithriadol ac roedd ganddo fo synnwyr digrifwch direidus dros ben.”
Marwolaeth
Bu farw yn 74 oed yng Nghaerdydd o effaith COVID-19, un o'r miloedd o bobl a gollwyd y flwyddyn honno yn y Gofid Mawr yng Nghymru.
Teyrngedau
Cafwyd dyfyniad o deyrnged iddo gan Wynfford Elis Owen yng nghylchgrawn Golwg a chan eraill ar y cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys gan YesCymru ar Twitter:
"Wedi clywed bod Cen ‘cartŵn’ Williams wedi marw o COVID-19. Un o hogia’ Gwalchmai, Môn symud i Gaerdydd a dod yn rhan – a darlunio – adfywiad cenedlaethol y brifddinas. 2 gartŵn nodweddiadol: tafarn ‘New Ely’ yn 1970au a thaflen etholiad Owen John Thomas 1980au. Coffa da amdano."