Catrin ferch Gruffudd ap Hywel
Quick Facts
Biography
Merch a bardd o Landdeiniolen, Ynys Môn, oedd Catrin ferch Gruffudd ap Hywel (bl. 1555).
Priododd esgob Catholig o'r enw Robert ap Rhys, ac roedd hi'n feirniadol o rai o agweddau'r Diwygiad Protestanaidd. Dilynodd eu mab yr un alwedigaeth fel offeiriad Llanddeiniolen. Mae'r englyn canlynol yncynrychioli hiraeth Catrin am y grefydd Gatholig yng Nghymru:
Y cór a'r allor a ddrylliwyd — ar gam
Ac ymaith y taflwyd
A'r Lading a erlidiwyd;
O gór y Gŵr llwyd."
Ceir rhagor ganddi am ei chrefydd yn ei hawdl foliant i Grist, neu "Awdl merch glaf er coffa Crist a'i ddioddefaint, neu awdl gyffes pechadures", a phedwar englyn i'r haf oer yn 1555. Cadwyd ei gwaith mewn llawysgrifau yn B.M.Add. MSS. 14892, 14906, 14994, ac Ll.G.C. MSS. 695, 1553, 1559, 2602, 6209 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llyfryddiaeth
- Welsh Women's Poetry 1460–2001; gol: Katie Gramich, Catherine Brennan. Honno (2003).