peoplepill id: caryl-bryn
CB
Wales
1 views today
1 views this week
Caryl Bryn
Welsh author and poet

Caryl Bryn

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh author and poet
A.K.A.
Caryl Bryn Hughes
Places
Gender
Female
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd a llenor Cymreig a ddaw'n wreiddiol o Borth Amlwch ym Môn yw Caryl Bryn sydd bellach wedi ymgartrefu ger Caernarfon, Gwynedd. Enillodd y categori Barddoniaeth yn nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2020 gyda'i chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Hwn ydy'r llais, tybad?.

Graddiodd â BA o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2017 cyn graddio â MA Ysgrifennu Creadigol Cymraeg o’r un Brifysgol yn 2020.

Roedd yn Gynhyrchydd Cynnwys Digidol i Hansh, S4C yn Antena o 2020-21. Bu iddi ymddangos yn nifer o gynnwys Hansh dros ei chyfnod yn Antena. Roedd yn un o awduron ac yn actio yn y comedi 'Iawn Mêt?' (Tinopolis Cymru) ar Hansh yn 2022.

Mae’n Is-Gadeirydd a Chyfarwyddwr Artistig yn Theatr Fach Llangefni.

Yn bresennol mae'n gweithio i Gwmni Cynhyrchu Tinopolis Cymru ac mae'n un o ohebwyr Heno a Prynhawn Da, S4C.

Barddoniaeth

Fis Hydref 2018, cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â Manon Awst, Osian Owen a Morgan Owen. Mae'n gyn-aelod o grŵp barddol benywaidd Cywion Cranogwen sydd yn teithio ledled Cymru â'u sioeau amlgyfrwng. Mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Barddas a'r Stamp ymysg cyhoeddiadau llenyddol eraill ac yn 2017, hi oedd enillydd cystadleuaeth cyfansoddi cerddi Mudiad Meithrin i fyfyrwyr prifysgolion Cymru. Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019..Daeth yn drydydd am gadair yr Urdd yn 2021 lle ddaeth Carwyn Eckley i’r brig a Mathew Tucker yn ail. Roedd yn Fardd y Mis Radio Cymru ar gyfer Ebrill 2019. Bu’n aelod o dîm Y Chwe Mil ar raglen Talwrn y Beirdd, ar y cyd ag Osian Owen, Iestyn Tyne ac Elis Dafydd.

Derbyniodd nawdd o gronfa Barddas er cof am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ym Mai 2019 i fynychu cwrs ar y gynghanedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Yn Eisteddfod AmGen 2021, fe'i penodwyd yn un o feirniaid cystadleuaeth y Gadair, ar y cyd â Jim Parc Nest a Guto Dafydd.

Hwn ydy'r llais, tybad? (2019)

Cafodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth a rhyddiaith, Hwn ydy'r llais, tybad?, ei rhyddhau gan Gyhoeddiadau'r Stamp ym mis Ebrill 2019. Mae'r teitl yn ddyfyniad o'r nofel gan Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad. Nodwyd yn rhifyn Chwefror 2019 o Bodlediad Clera y byddai'r wasg hefyd yn rhyddhau nifer gyfyngedig o CDs o Caryl yn darllen ei gwaith i gyd-fynd â'r gyfrol.

Enillodd y gyfrol gategori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020, ar ôl cyrraedd y rhestr fer gyda llyfrau gan Myrddin ap Dafydd ac Idris Reynolds. Nododd ar ei chyfrif Twitter yn fuan wedi'r fuddugoliaeth y byddai ei hail gyfrol o farddoniaeth yn ymddangos yn 2021, eto gyda Chyhoeddiadau'r Stamp.

Llyfryddiaeth

  • Hwn ydy'r llais, tybad? (Cyhoeddiadau'r Stamp - cyfrol, 2019)
  • Detholiad o Gerddi: Caryl Bryn, Osian Owen a Sara Borda Green (Cyhoeddiadau'r Stamp - pamffled digidol, 2020)

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Caryl Bryn is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Caryl Bryn
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes