Caroline Berry
Quick Facts
Biography
Mae Caroline Berry yn actores o Gymraes sydd wedi ymddangos mewn cynhyrchiadau yn y Gymraeg a, gan fwyaf, yn y Saesneg. Ymhlith ei hymddangosiadau mwyaf adnabyddus a diweddar mae Gwledd (2021), The Pembrokeshire Murders (2021), It's a Sin (2021) a Requiem (2018).
Cefndir
Bu i Caroline astudio yn Ysgol Ddrama East 15 yn Llundain.
Gwaith
Cynyrchiadau Cymraeg neu ddwyieithog
Mae Caroline wedi ymddangos yn ffilm arswyd Gwledd, cyfres ddrama ditectif, Bang, Oed yr Addewid (2001).
Cynyrchiadau Saesneg
Bu iddi ymddangos mewn gwahanol mathau o rannau mewn nifer fawr o gynyrchiadau iaith Saesneg, nifer wedi eu lleoli yng Nghymru ac â naws Gymreig fel The Pembrokeshire Murder a The Life Boat ac eraill tu allan megis, cyfresi It's a Sin, Doctors, Inspector Morse, Birds of a Feather, Mayday, Coronation Street, a Casualty. Mae wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Gwledd (a ddosbarthwyd hefyd o dan deitl Feast).
Cynyrchiadau eraill
Mae wedi ymddangos mewn dramâu megis Swansea's Three Night Blitz a chyfresi radio ar BBC Radio Wales (Jewelsh) a BBC Radio 4, Look Who's Back.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Caroline Berry ar wefan IMDb
- Tudalen Facebook Caroline Berry