peoplepill id: brynle-rees-parry
BRP
1 views today
1 views this week
Brynle Rees Parry

Brynle Rees Parry

The basics

Quick Facts

Birth
Death
Age
68 years
The details (from wikipedia)

Biography

Brynle Rees Parry (1935–2003) oedd trydydd Archifydd y Sir i wasanaethu Cyngor Sir Gaernarfon. Yn frodor o Frymbo ger Wrecsam, aeth i'r coleg ym Mangor (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru), yn y lle cyntaf gyda'i olwg ar fynd i'r weinidogaeth ond fe raddiodd mewn hanes cyn astudio ar gyfer Diploma mewn Gweinyddu Archifau,(DAA). Cafodd ei benodi'n Archifydd Sir Feirionnydd lle buodd am rai blynyddoedd, cyn symud i Gaernarfon ym 1964.

Cafodd lwyddiant mawr wrth chwyddo casgliadau a dylanwad Archifdy Caernarfon, gan weithio i raddau trwy ei ysgrifenyddiaeth o'r gymdeithas hanes sirol, Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon. Magodd ddiddordeb mawr yn hanes y môr, gan sefydlu cylchgrawn Cymru a'r Môr gyda'i ffrindiau Aled Eames a Lewis Lloyd.

Roedd ei ddyléit fel archifydd mewn ehangu defnydd y deunydd dan ei ofal a hyrwyddo defnydd gan ysgolion yn hytrach na chatalogio - fe oedd yn gyfrifol, gyda'i ffrind T.M. Bassett o Goleg y Normal, Bangor, mewn ymgyrchu'n llwyddiannus am benodi swyddog addysg yn yr archifdy - y swydd gyntaf o'i bath yng Nghymru os nad Prydain gyfan. Bu'n llwyddiannus yn broffesiynol hefyd trwy fynd yn Gadeirydd Cymdeithas Archifyddion Sirol Prydain am rai blynyddoedd.

Ymddeolodd ym 1996 fel Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant Cyngor Sir Gwynedd pan ddaeth yr awdurdod hwnnw i ben. Parhaodd i fyw yn ei dŷ ym Mhorth-y-gest ond bu farw ymhen ryw dair blynedd.

Roedd o'n Gymro Cymraeg, er iddo deimlo efallai (a hynny'n gyfeiliornus) nad oedd Cymraeg gyfoethog ei bentref genedigol yn ddigon da wrth ochr ei Saesneg. Roedd yn gefnder cyfan i Janet Street-Porter ar ochr ei fam a ddaeth o ardal Penmaenmawr yn wreiddiol.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Brynle Rees Parry is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Brynle Rees Parry
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes