Branwen Williams
Quick Facts
Biography
Cerddor Cymreig yw Branwen Williams. Mae'n chwarae'r piano, organ ac yn llais cefndir i Cowbois Rhos Botwnnog ac yn un o brif leisiau a chyfansoddwyr Siddi.
Gwobrau
Enillodd Branwen 'Sbrings' Williams gwobr newydd 'Seren y Sin' Gwobrau'r Selar 2019. Cyhoeddwyd y newyddion fel syrpreis i Branwen wrth iddi ymuno â Lisa Gwilym fel gwestai ar ei rhaglen radio ar 13 Chwefror 2019. Dyma’r tro cyntaf i wobr Seren y Sin gael ei chynnwys fel rhan o bleidlais Gwobrau’r Selar. Cafodd gweddill y Gwobrau eu cyflwyno dros penwythnos 15-16 Chwefror 2019 yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Gwaith
Mae Branwen yn un o dri cyfarwyddwr label Recordiau I Ka Ching sydd wedi sefydlu eu hunain fel un o brif labeli Cymru. Yn ogystal, mae hi'n trefnu gigiau yn Y Bala a Llanuwchlyn, gan cynnwys gigs sydd yn llwyddiannus iawn yn Neuadd Buddug, Y Bala.
Bywyd personol
Mae hi'n ferch i'r athro Derec Williams a chwaer i Osian Huw Williams, prif ganwr Candelas a'r actor Meilir Rhys Williams.