peoplepill id: andrew-thomas-6
AT
1 views today
1 views this week
The basics

Quick Facts

A.K.A.
Andrew "Tommo" Thomas
Birth
Age
58 years
The details (from wikipedia)

Biography

Cyflwynydd radio o Gymro yw Andrew "Tommo" Thomas (ganwyd 1 Chwefror 1967).

Magwyd Andrew Paul Thomas yn Aberteifi. Yn ôl ei hunangofiant, fe adawodd yr ysgol cyn gynted ag y medrai, gan gymryd nifer o swyddi: dyn post, cynnal discos yn Aberteifi ac yn Sbaen, torri beddau, a gweithio mewn siop cigydd.

Gyrfa

Bu'n cyflwyno'r sioe frecwast ar orsafoedd Nation Broadcasting yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys Radio Sir Gâr, Radio Pembrokeshire a Radio Ceredigion. Yn 2011 enillodd wobr Gyflwynydd Radio’r Flwyddyn ar gyfer gorsafoedd sy’n gwasanaethu hyd at 300,000 o bobol.

Ymunodd a BBC Radio Cymru yn 2014 gyda sioe rhwng 2 a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau. Yng Ngorffennaf 2017 fe'i gwaharddwyd o'i waith am rai wythnosau tra bod y BBC yn cynnal ymchwiliad i gŵyn am sylwadau a wnaeth yn ystod Gŵyl Nôl a ’Mlân yn Llangrannog. Ysgrifennodd at yr Ŵyl i ymddiheuro a dychwelodd i'w sioe ar ddiwedd Gorffennaf. Yn Chwefror 2018, cyhoeddodd y byddai'n gadael Radio Cymru gan ddychwelwyd i gwmni Nation i gyflwyno rhaglen newydd rhwng 11am a 3pm. Cyflwynyodd ei sioe Radio Cymru olaf ar ddydd Iau, 29 Mawrth 2018.

Cyhoeddwyd Tommo - Stori'r Sŵn Mawr yn 2014, cyfrol o straeon am hanes a bywyd Tommo.

Bywyd personol

Mae'n briod a Donna ac mae ganddynt fab. Yn 2006 cafodd ddiagnosis o afiechyd yr aren. Cychwynnodd gael dialysis yn Ionawr 2007 ac yna trawsblaniad aren ym Mehefin yr un flwyddyn.

Cyfeiriadau

  1. Gwobr Brydeinig i Radio Ceredigion , Golwg360, 8 Gorffennaf 2011.Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  2. Amserlen Radio Cymru ar ei newydd wedd , Golwg360, 10 Mawrth 2014.Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  3. Tommo yn ôl ar yr awyr ddydd Llun nesaf , Golwg360, 26 Gorffennaf 2017.Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  4. Tommo yn gadael Radio Cymru , Golwg360.
  5. Bywyd newydd , BBC Cymru Fyw, 7 Rhagfyr 2015.Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.

Dolenni allanol

Awdurdod
Awdurdod
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Andrew Thomas is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Andrew Thomas
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes