peoplepill id: alys-williams-1
AW
United Kingdom
1 views today
2 views this week
Alys Williams
Welsh singer

Alys Williams

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh singer
Work field
Gender
Female
Birth
Place of birth
St Asaph, United Kingdom
Age
38 years
Residence
Caernarfon, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Cantores o Gymraes yw Alys Mair Williams (ganwyd 1987). Mae'n canu caneuon pop gyda dylanwadau gwerin a jazz ac mae'n cynnwys riffiau byrfyfyr wrth ganu.

Bywgraffiad

Magwyd Alys yng Nghaernarfon ond cafodd ei geni yn Llanelwy. Stephen John Williams yw ei thad a gafodd ei fagu yn Llandudno ac Ann Llwyd Williams yw ei mam a gafodd ei magu ym Mangor, Mae gan Alys un brawd iau o’r enw Ifan Rhys Williams. Mae gan Alys efeilliaid ac mae wedi dyweddïo gyda Sion Jones ac yn priodi ym mis Gorffennaf 2019.

Alys yn Eiseddfod Caerdydd, 2018.
Alys yn Eiseddfod Caerdydd, 2018.

Aeth Alys i Ysgol Gynradd Y Gelli, Caernarfon ac yna i Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Astudiodd lefel A yng Ngholeg Menai, Bangor ac aeth ymlaen i astudio Therapïau Amgen yn Lerpwl.

Mae Alys yn hoff iawn o ysgrifennu caneuon a hefyd yn hoff o goginio a chael ffrindiau draw am fwyd. Mae hefyd yn hoffi cadw yn heini a mynd i'r gampfa a mynd â’i chi Mati Mw am dro. Mae hefyd yn hoffi siopa hen ddillad ‘Vintage’ a tydi hi byth yn gadael y tŷ heb ruban yn ei gwallt.

Ymddangosiad ar The Voice

Aeth Alys ar raglen The Voice yn 2012 ond ni aeth drwodd i'r 'clyweliadau dall' oherwydd nerfau - teimlodd nad oedd wedi canu’n dda iawn. Aeth yn ôl y flwyddyn ganlynol, 2013 i brofi ei bod hi yn gallu gwneud yn well na’r flwyddyn gynt. Y flwyddyn honno fe wnaeth y pedwar barnwr droi ond dewisodd Alys y canwr Tom Jones fel ei mentor. Gwnaeth Alys lawer o ffrindiau ar raglen The Voice a daeth ymlaen yn dda iawn gyda'i mentor Tom Jones. Roedd Alys yn arfer bod yn nerfus iawn cyn canu ond ar ôl ymddangos ar y rhaglen llwyddodd igoresgyn ei nerfau gan fynd ymlaen i ganu ar raglenni a oedd yn cael eu darlledu yn fyw i filiynau o bobl, ac ennill bywoliaeth drwy ganu.

Caneuon

Dros ei gyrfa mae Alys wedi ysgrifennu sawl cân:

  • Dim ond
  • Chwythar gwn
  • Fy mhlentyn i
  • Pan for nos yn hir
  • Cymylau
  • Gweld y byd mewn lliw
  • Gerfydd fy nwylo gwyn
  • Synfyfyrio
  • Lle ma dy galon
  • Un seren
  • Don't mind
  • Llonydd
  • Celwydd
  • Do wrong
  • Multigold
  • Lliwiau
  • Hawl i fyw
  • Is this love
  • Blodau papur
  • Llygad Ebrill
  • Tyrd ata i

Yn 2019 roedd yna albwm newydd ar ei ffordd. Cyhoeddwyd y caneuon yma ar gael ar wefannau Youtube, Spotify, Google play music ac Deezer.

Dolenni allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Alys Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Alys Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes