peoplepill id: alfred-brothers
AB
United Kingdom Great Britain
1 views today
2 views this week
Alfred Brothers
British photographer

Alfred Brothers

The basics

Quick Facts

Intro
British photographer
Work field
Gender
Male
Place of birth
Sheerness, Swale, Kent, United Kingdom
Place of death
Handforth, Cheshire East, Cheshire, United Kingdom
Age
86 years
The details (from wikipedia)

Biography

Ffotograffydd o Loegr oedd Alfred Brothers (2 Ionawr 1826 - 26 Awst 1912). Cafodd ei eni yn Sheerness yn 1826 a bu farw yn Handforth, Swydd Caer.

Bywgraffiad

Ganwyd Brothers yn Sheerness, Swydd Kent yn fab i John Brothers, fferyllydd a Caroline ei wraig. Bu'n gweithio fel clerc i adeiladwr cyn priodi. Ar 8 Mehefin 1853 priododd Louisa Buck merch Geiorge Buck, bonheddwr yn Eglwys All Saints, Maidstone. Wedi priodi symudodd i Fanceinion i weithio fel gwerthwr yswiriant.

Ers ei ieuenctid bu ganddo ddiddordeb byw mewn ffotograffiaeth a seryddiaeth. Ym 1855 rhoddodd gorau i'w swydd fel gwerthwr yswiriant ac agorodd stiwdio ffotograffiaeth yn St Anne's Square, Manceinion. Ym 1857 bu'n ffotograffydd i'r Arddangosfa Trysorau'r Celfyddydau ym Manceinion gan dynnu lluniau o ymweliad y Frenhines Fictoria a'r Tywysog Albert i'r arddangosfa.

Ym 1864 dyfeisiodd modd i ddefnyddio rhuban o fagnesiwm i greu golau artiffisial ar gyfer tynnu lluniau. Caniataodd y rhuban iddi i dynnu'r ffotograffau tan ddaear gyntaf yng nglofa Blue John Swydd Derby.

Yn ogystal â gwneud bywoliaeth o dynnu lluniau portread bu'n arbenigo mewn ffotograffau o adeiladau hanesyddol a ffotograffau o'r sêr a'r lleuad. Cyhoeddodd llyfr o ffotograffau hen adeiladau Views of Old Manchester ym 1875 a chafodd ei ddilyn ym 1878 gan lyfr o adeiladau newydd y ddinas Views of Modern Manchester. Ym 1870 aeth ar daith a noddwyd gan Lywodraeth Y DU i astudio diffyg ar yr haul gan lwyddo i fod yr un cyntaf i dynnu llun ffotograffig o gorona'r haul gan gynorthwyo gwyddonwyr i wella eu dealltwriaeth o'r ffenomenon.

Ym 1892 cyhoeddodd gwerslyfr o’r enw Photography: its History, Processes, Appararatus and Material

Mae yna enghreifftiau o waith Alfred Brothersyng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yng nghasgliad Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

Oriel

Dyma ddetholiad o weithiau gan Alfred Brothers:

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Alfred Brothers is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Alfred Brothers
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes