Aled Glynne
Quick Facts
Biography
Darlledwr oedd Aled Glynne (29 Mawrth 1957 – Rhagfyr 2022), neu Aled Glynne Davies. Bu'n Olygydd ar orsaf BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.
Fe'i ganed yn 1957 yn un o bedwar mab y bardd T. Glynne Davies. Ei frodyr yw Owen, Geraint a Gareth. Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf yna ysgolion uwchradd Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Dyffryn Ogwen.
Gyrfa
Cychwynnodd ei yrfa darlledu ar Sain Abertawe yn 1976, gan gyflwyno sioe gerddoriaeth Mynd am Sbin. Yn 1978 ymunodd fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru. Bu'n gweithio yn yr adran newyddion am flynyddoedd, ar y radio a'r teledu, cyn cael ei benodi'n olygydd Radio Cymru yn 1995. Arweiniodd y tîm a sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru'r Byd.
Ar ôl gadael y swydd yn 2006, sefydlodd gwmni Goriad gyda'i wraig Afryl. Gweithiodd y cwmni ar nifer o gynyrchiadau teledu a radio, gan gynnwys y rhaglen wythnosol Bore Sul i Radio Cymru.
Bywyd personol
Roedd yn briod ag Afryl ac yn byw yng Nghaerdydd; mae ganddynt fab a merch, sef y newyddiadurwr Gwenllian Glyn a'r actor Gruffudd Glyn.
Marwolaeth a theyrngedau
Aeth ar goll Nos Galan 2022. Roedd wedi mynd allan am dro yn ardal Pontcanna ar y nos Sadwrn. Gwnaed apêl am wybodaeth ar ddydd Sul, Dydd Calan gyda manylion yn cael ei ledu ar y cyfryngau cymdeithasol. Bu'r heddlu a gwirfoddolwyr yn chwilio amdano am rai diwrnodau. Darganfuwyd ei gorff ym Mae Caerdydd ar ddydd Mercher, 4 Ionawr 2023.
Talwyd teyrngedau iddo gan lawer. Dywedodd Dylan Iorwerth ei fod wedi dechrau gweithio gyda Aled "fwy neu lai’r un pryd yn adran newyddion Radio Cymru ac roedd o’n chwa o awyr iach o fewn y BBC... wedi ei drwytho mewn newyddiaduraeth gan ei dad, T. Glynne Davies, ac wedyn radio masnachol, roedd yn credu yn angerddol ym mhwysigrwydd pobol ac mewn creu deunydd poblogaidd yn Gymraeg."
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhuanedd Richards, "Roedd Aled yn olygydd arloesol, egnïol ac angerddol yn ystod ei gyfnod wrth y llyw yn arwain BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006... Ei nod bob amser oedd creu cynnwys a fyddai’n denu siaradwyr Cymraeg newydd i’r gwasanaeth, a sicrhau fod yr orsaf yn apelio at fwy o bobol iau".
Cafwyd teyrnged gan Huw Edwards yn dweud "Newyddion torcalonnus. Roedd Aled yn gynhyrchydd ac yn newyddiadurwr o allu sylweddol. Roedd hefyd yn berson hael a charedig. Colled enfawr i’w deulu a’i gyfeillion".
Mewn erthygl, ysgrifennodd Vaughan Roderick am ei atgofion cynnar o Aled pan ddaeth ato ar iard ysgol Bryntaf a chynnig bod yn ffrindiau. Yn yr 1980au cynnar gweithiodd y ddau ar orsaf radio masnachol Darlledu Caerdydd ac yna ar wasanaeth newyddion y BBC. Dywedodd mai Aled oedd "golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru gan drawsnewid cawlach o raglenni hen ffasiwn yn orsaf fodern, lyfn, tebyg iawn i'r hyn yw hi heddiw."