William Gilbert Williams

Welsh schoolmaster and local historian
The basics

Quick Facts

IntroWelsh schoolmaster and local historian
PlacesWales
wasTeacher Historian Local historian Schoolmaster
Work fieldAcademia Social science
Gender
Male
Birth1874, Rhostryfan, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Death10 October 1966 (aged 92 years)
The details

Biography

Ysgolfeistr a phrifathro ysgolion Felinwnda ac wedyn Rhostryfan ym mhlwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon, oedd William Gilbert Williams (20 Ionawr 1874 – 10 Hydref 1966). Ysgrifennodd yn helaeth ar bynciau hanesyddol lleol, gan gyfrannu at Cymru coch a phapurau lleol.

Cyhoeddodd nifer o bamffledi (sydd bellach yn hynod gasgladwy) ar ei wasg ei hun, ynghyd â nifer o lyfrau mwy sylweddol. Roedd o hefyd yn fardd lleol o sylwedd ac ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama a gweithiau ar gyfer plant. Ei brif lwyddiant fodd bynnag oedd ym maes hanes ei filltir sgwâr; mae'n ddigon posib mai ef oedd y cyntaf i edrych yn fanwl ar bapurau Llys Chwarter y Sir trwy lygaid hanesydd modern. Roedd ymysg y cyntaf i gyflwyno hanes ardal benodol yn seiliedig ar ymchwil manwl trwy ddefnyddio ffynonellau primaidd.

Bu'n weithgar yn gyhoeddus, gan wasanaethu am 10 mlynedd fel cynghorydd sir a llenwodd sawl swydd o bwys o fewn ei enwad, y Methodistiaid Calfinaidd.

Ceir peth o hanes ei deulu yn llyfr ei frawd John ["J.W."], sef Hynt Gwerinwr. Mae nodiadau a dyddiaduron o'i eiddo ar gadw yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.

Mae plac wedi'i godi i'w goffáu ar ei gartref, Talybont, ym mhentref Rhostryfan.

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 10 Aug 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.