Biography
Gallery (1)
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh writer, called Glan Alun | ||
A.K.A. | Glan Alun | ||
A.K.A. | Glan Alun | ||
Places | Wales | ||
was | Writer Poet | ||
Work field | Literature | ||
Gender |
| ||
Religion: | Calvinistic methodists | ||
Birth | 11 March 1811, Mold, Flintshire, Wales, United Kingdom | ||
Death | 29 March 1866 (aged 55 years) | ||
Star sign | Pisces | ||
Family |
|
Biography
Bardd a llenor oedd Thomas Jones (11 Mawrth 1811 – 29 Mawrth 1866), a ysgrifennai dan yr enw barddol Glan Alun.
Gyrfa
Ganed Glan Alun yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Cafodd ei ddwyn i fyny yn fferyllydd ac sefydlodd busnes yn Wrecsam. Aeth yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Methodistiaid. Cychwynodd fisolyn o'r enw Y Wenynen ond nid oedd yn llwyddiannus iawn. Aeth ei fusnes i'r wal a dechreuodd gwneud a gwerthu canhwyllau dros gwmni masnachol o Fanceinion. Goleddai syniadau Radicalaidd yr oes.
Cerddi
Ei unig waith cyhoeddedig yw'r gyfrol Ehediadau Byrion, a gyhoeddwyd yn 1862. Er nad oes lawer o werth llenyddol i'w cerddi maent yn enghraifft dda o'r farddoniaeth boblogaidd ar ganol y 19g. Mwy diddorol heddiw efallai yw'r llyfr taith byr ar ddiwedd y gyfrol, sy'n disgrifio ei daith o gwmpas canolbarth a gogledd Cymru yn y 1840au. Mae rhai o'r darluniau a geir ynddo, fel ei ddisgrifiad o dafarn yn Llandrindod ar ddiwrnod o law, yn dangos gwreiddioldeb a ffresni nas ceir fel rheol yn y rhan fwyaf o ryddiaith y ganrif.
Gwyddoniaeth
Dadlennol darllen y fferyllydd, Thomas Jones, yn disgrifio natur yr elfennau cemegol yn Y Wenynen (1836). Disgrifiadau clir (ond ddim yn hollol gywir) o Ocsigen, Hydrogen a Nitrogen ynghyd â braslun o weddill yr "oddeutu wyth a deugain o elfenau (sic)" (gan gynnwys "brwmstan", y mettelau (sic) a'r naw o "briddau"). Mae R. Elwyn Hughes yn cyfeirio ato fel enghraifft dda o awdur poblogaidd ar gemeg y cyfnod.
Llyfryddiaeth
- Glan Alun, Ehediadau Byrion (Hugh Jones, Yr Wyddgrug, 1862)