Siwan M. Rosser
Writer
Intro | Writer | |
is | Writer | |
Work field | Literature | |
Gender |
|
Darlithydd aw awdur o Sir y Fflint yw Siwan M. Rosser.
Bu'n astudio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan gwblhau doethuriaeth yno ar faledi'r ddeunawfed ganrif. Cyhoeddodd ymdriniaeth flaengar â'r modd y portreëdir merched ym maledi'r ddeunawfed ganrif yn Y Ferch ym Myd y Faled yn 2005. Mae'n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Cyhoeddwyd y gyfrol Bardd Pengwern - Detholiad o Gerddi Jonathan Hughes, Llangollen gan Cyhoeddiadau Barddas yn 2007.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Siwan M. Rosser ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |