Sion Alun

Gweinidog, ymgyrchydd iaith
The basics

Quick Facts

IntroGweinidog, ymgyrchydd iaith
PlacesUnited Kingdom
wasMinister
Work fieldReligion
Gender
Male
Birth30 October 1955
Death2 October 2012Swansea, City and County of Swansea, Wales, United Kingdom (aged 56 years)
Star signScorpio
Family
Children:Steffan Alun
The details

Biography

Gweinidog yn ardal Abertawe oedd Siôn Alun (30 Hydref 1955 - 2 Hydref 2012), neu John Alun Thomas. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Pont-lliw, ac yn ysgol uwchradd Pontardawe lle daeth o dan ddylanwad Eic Davies. Symudodd i Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera pan agorodd honno. Wedyn aeth i Goleg Annibynnol Bala-Bangor dan brifathrawiaeth R. Tudur Jones a'r Athro Alwyn Charles. Enillodd y wobr gyntaf dair gwaith yn olynol ar siarad cyhoeddus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Roedd yn gyn weinidog Bethel, Sgeti a'r Trinity, Abertawe. Roedd yn aelod cynnar o Gymdeithas yr Iaith ac yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg. Bu'n gadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg yn Abertawe. Roedd yn briod i Catrin, a roedd ganddo ddau fab, Steffan a Gwydion.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 09 Aug 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.