Sian Owen

Welsh author
The basics

Quick Facts

IntroWelsh author
PlacesWales
wasWriter Translator Editor Poet
Work fieldJournalism Literature
Gender
Female
Birth8 April 1965, Llanuwchllyn, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Death3 October 2013 (aged 48 years)
Star signAries
The details

Biography

Cyfieithydd, golygydd, ac awdur Cymreig oedd Sian Owen (8 Ebrill 1965 – 3 Hydref 2013).

Bywgraffiad

Ganed Sian Owen yn Llanuwchllyn a magwyd hi yn Ynys Môn. Mynychodd Ysgol Uwchradd Bodedern cyn astudio ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac enillodd PhD mewn ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Bu'n gweithio ar ei liwt ei hun fel cyfieithydd, awdur a golygydd. Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer BBC Radio Cymru a golygu gwerslyfrau gwyddonol CBAC.

Enillodd Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Féile Filíochta yn 2007.

Ynys Môn oedd lleoliad ei nofel gyntaf Mân Esgyrn a ddaeth yn ail agos yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009. Cyrhaeddodd hefyd restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

Sian oedd y ferch gyntaf erioed i gael ei chodi'n Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Eisteddfod Môn. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn. a bu'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Bro Alaw.

Roedd ganddi dri o blant a bu'n byw yn Marian-glas, Ynys Môn. Bu farw o ganser yn Hydref 2013.

Llyfryddiaeth

  • Mân Esgyrn, Hydref 2009 (Gwasg Gomer)
  • Darn o'r haul, Gorffennaf 2015 (Barddas)

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.