Ruth Roberts

Convict transported to Australia in 1847
The basics

Quick Facts

IntroConvict transported to Australia in 1847
PlacesAustralia
isConvict
Gender
Female
The details

Biography

Cymraes a yrrwyd i Dir Van Diemen (Tasmania) am saith mlynedd ym 1847 oedd Ruth Roberts wedi iddi ddwyn pedwar cabaets o ardd ger Y Bala.

Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb.  Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau.

Wrth edrych ar y driniaeth a dderbyniodd troseddwyr benywaidd, yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw’r gwrthdaro cyson a geir rhwng y ddelwedd o’r ferch eiddil a’r gred fod rhai merched yn wirioneddol ddrwg.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 11 Jul 2024. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.