Ruth Price

Welsh television producer
The basics

Quick Facts

IntroWelsh television producer
A.K.A.Ruth Price Walters
A.K.A.Ruth Price Walters
PlacesWales
wasTeacher Television producer Radio producer
Work fieldAcademia Film, TV, Stage & Radio
Gender
Female
Birth1924, Mathry, United Kingdom
Death23 February 2019Cardiff, United Kingdom (aged 95 years)
The details

Biography

Cynhyrchydd teledu o Gymraes oedd Ruth Price (1924 – 23 Chwefror 2019).

Bywgraffiad

Fe'i ganwyd ym Mathri yn Sir Benfro, a cychwynnodd ei gyrfa fel athrawes. Daeth yn brifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf ym Mhontarddulais. Bu farw yng Nghaerdydd yn 95 oed.

Gyrfa

Ym 1961, fe'i denwyd i'r BBC gan Sam Jones a daeth yn gynhyrchydd rhaglenni radio i blant ym Mangor. Roedd hi'n gyfrifol am Awr y Plant a creodd y gyfres gerddoriaeth boblogaidd i blant, Clywch, Clywch ar fore Sadwrn.

Yn 1963, symudodd wedyn i dîm adloniant ysgafn Cymraeg y BBC yng Nghaerdydd, o dan y pennaeth Meredydd Evans. Roedd yn gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth gwerin Hob y Deri Dando. Roedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu y rhaglen gerddoriaeth bop cyntaf yn y Gymraeg, Disc a Dawn lle ymddangosodd Max Boyce a Mary Hopkin am y tro cyntaf ar deledu. Yn ôl Hywel Gwynfryn roedd Ruth hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Meic Stevens, a oedd wedi bod yn canu yn Llundain. Byddai Ruth yn comisiynu cyfieithiadau o ganeuon Saesneg poblogaidd i'w perfformio yn Gymraeg ar y sioe.

Cyfeiriadau

  1. Teyrngedau i’r cynhyrchydd teledu, Ruth Price, sydd wedi marw yn 95 oed , Golwg360, 25 Chwefror 2019.
  2. Y cynhyrchydd arloesol Ruth Price wedi marw yn 95 oed , BBC Cymru Fyw, 24 Chwefror 2019. Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2019.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 06 Jan 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.