Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh poet | ||
Places | Wales | ||
was | Poet Teacher | ||
Work field | Academia Literature | ||
Gender |
| ||
Birth | 1937 | ||
Death | 20 September 2021 (aged 84 years) | ||
Family |
| ||
Awards |
|
Biography
Bardd Cymraeg oedd Robert Owen Williams (1937 – 20 Medi 2021) neu R.O. Williams.
Bywgraffiad
Cafodd ei eni ym 1937, a chafodd ei fagu yn ardal Eifionydd. Bu'n gweithio fel athro yn Lerpwl, ac yna yn Ysgol y Berwyn yn y Bala. Fe ddysgodd gynganeddu gan Alan Llwyd. Bu farw fis Medi 2021 yn 84 mlwydd oed.
Barddoniaeth
R.O. Williams oedd prifardd y gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dinefwr 1996, ble'r enillodd gyda'i awdl Grisiau. Anne Frank oedd testun ei awdl, a hynny ar hanner canmlwyddiant ei marwolaeth. Roedd y gadair a enillodd yn un anarferol ar sawl ystyr - defnyddiodd y saer, y Parchedig T. Alwyn Williams, dderw o olion hen bont yn Llandeilo, ac fe fu farw T. Alwyn Williams yn fuan wedi cwblhau'r gadair, cyn yr Eisteddfod.
Enillodd R.O. Williams gadair Eisteddfod Gadeiriol Y Ffôr ar un achlysur hefyd.