Biography
Gallery (3)
Bibliography (2)
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh American who fought against slavery in the USA | ||
Places | Wales United States of America | ||
was | Printer | ||
Work field | Business | ||
Gender |
| ||
Religion: | Congregationalist polity | ||
Birth | 2 January 1791, Gronant, Llanasa, Flintshire, United Kingdom | ||
Death | 25 February 1875Steuben County, New York, USA (aged 84 years) | ||
Star sign | Capricorn | ||
Family |
|
Biography
Cymro Americanaidd oedd Robert Everett (2 Ionawr, 1791 - 25 Chwefror 1875) a fu'n enwog yn ei ddydd am ei waith yn hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a chrefydd yn yr Unol Daleithiau ac yn enwedig am ei safiad cyhoeddus yn erbyn caethwasanaeth pobl dduon. Yn 2022, yn dilyn gwaith ymchwil gan yr Americanwr Jerry Hunter, cafodd Everett ei dderbyn i'r National Abolition Hall of Fame and Museum yn Efrog Newydd oherwydd ei safiad yn erbyn caethwasanaeth.
Ganed Robert Everett ym mhentref bychan Gronant, Sir y Fflint yn 1795; goruchwyliwr gwaith plwm oedd ei dad. Roedd hefyd yn aelod o eglwys Trelawnyd ac yn bregethwr cynorthwyol. Roedd taid Robert Everret (fel yr awgryma'r cyfenw) yn dod o'r Alban.
Fe'i ordeiniwyd yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, yn 1815. Fel nifer o'i gydwladwyr a geisiai fywyd gwell a'r rhyddid i addoli, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn ddyn ifanc. Derbyniodd alwad i ofalu am gapel Cymraeg yn Utica, Efrog Newydd, yn 1823 ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau gyda'i wraig Elizabeth a'u plant. Yn 1838 symudodd i Stueben, cymuned fechan y tu allan i Utica, lle bu'n weinidog ar ddau gapel: 'Capel Uchaf' a chapel 'Penymynydd' lle y bu hyd at ei farwolaeth yn 1875.
Cyhoeddi
Daeth yn ffigur amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus y cymunedau Cymreig yn America ac ymroddodd i gynnal traddodiadau a llenyddiaeth y Cymry yn y wlad honno. Yn 1840 sefydlodd bapur newydd o'r enw Y Cenhadwr Americanaidd, misolyn a wasanaethai Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau. Defnyddiodd y cylchgrawn i ymosod ar gaethwasiaeth (neu 'gaethwasanaeth') gan annog Cymry America i ymuno yn yr ymgyrch. Cyhoedai'r papur o'i gartref, gyda'i feibion yn argraffu a'i wraig Elizabeth yn darllen a chywiro'r proflenni. Yn 1843 dechreuodd gyhoeddi'r Dyngarwr, misolyn arall a oedd yn erfyn a ganolbwyntiai ar y mudiad dirwestol, hawliau i ferched, heddychiaeth a'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.
Diddymu Caethwasiaeth
Ond fe'i cofir yn bennaf yn yr Unol Daleithiau am ei ymgyrchu diflino, am dros ddeugain mlynedd, yn erbyn caethwasanaeth, a hynny ar adeg cyn Rhyfel Cartref America, pan fu hyd at tua pedair miliwn o bobl dduon mewn caethiwed ar blanhigfeydd y De. Cydweithiodd â diddymwyr caethwasiaeth yn Utica o ganol y 1830au ymalaen. Am dros chwarter canrif ymgyrchodd yn erbyn caethwasanaeth.
Ymunodd gyda'r Liberty Party yn gynnar yn y 1840au, gan gynddeiriogi'r Chwigiaid Cymreig a gredodd na ddylai gweinidog bregethu gwleidyddiaeth. Ar sawl achlysur, pan fyddai Robert Everett yn pregethu, taflai'r Chwigiaid Cymreig wyau a llyfrau emynau ato o oriel y capel! Yn 1856, sefydlwyd plaid newydd a gymerodd le'r hen Liberty Party, sef y 'Gweriniaethwyr', plaid wahanol iawn i'r blaid o'r un enw a geir heddiw. Roedd yn blaid radicalaidd a wrthwynebai ymestyn caethwasanaeth i daleithiau eraill, newydd. Yn 1856 trodd y rhan fwyaf o Gymry America i gefnogi'r Gweriniaethwyr. Erbyn hyn, gwelwyd Everett fel arweinydd moesol Cymry America, ac roedd yn uchel ei barch ac yn boblogaidd iawn.
Teulu
Priododd Everett ag Elizabeth Roberts, merch Thomas ac Elizabeth Roberts, Rhos Fawr, Dinbych ym 1816, bu iddynt pum mab a chwe merch. Roedd Mrs Everett yn ymgyrchydd brwd dros achos dirwest, yn ymgyrchu yn erbyn caethwasanaeth ac yn ymgyrchydd dros y pwysigrwydd o roi addysg gyfartal i ferched.
Oriel
- Clawr y papur newydd Y Cenhadwr Americanaidd; 1843
- Elizabeth Everett (née Roberts)
Llyfryddiaeth
- Jerry Hunter, I Ddeffro Ysbryd y Wlad - Robert Everett a'r ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- D. Davies ('Dewi Emlyn'), Cofiant Robert Everett, Utica, Efrog Newydd, 1879 (Utica, N.Y., 1879 )
- Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, i, 364-6
- Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iv, 215, 257
- Album Aberhonddu… o'r flwyddyn 1755 hyd 1880, 1898, 59
- E. Wyn James, ‘Robert Everett (1791–1875): “An Honourable Exception"’, Ninnau: The North American Welsh Newspaper, 48:5 (September/October 2023), 24. ISSN 0890-0485.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- America Gaeth, ar wefan S4C
- E. Wyn James, ‘Cymry, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America’: https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?ID=1408~4n~NNVx9cmN Darlith ar gyfer modiwl gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Ryfel Cartref America.