Robert Arthur Griffith

Welsh poet
The basics

Quick Facts

IntroWelsh poet
A.K.A.Elphin
A.K.A.Elphin
PlacesUnited Kingdom
wasLawyer Judge Barrister Poet
Work fieldLaw Literature
Gender
Male
Birth1860, Caernarfon, Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom
Death26 December 1936 (aged 77 years)
Family
Father:John Owen Griffith
The details

Biography

Bardd Cymraeg oedd Robert Arthur Griffith (1860 - 26 Rhagfyr 1936), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol "Elphin". Roedd yn fab i John Owen Griffith (Ioan Arfon).

Bywgraffiad

Yn frodor o Gaernarfon, Gwynedd, cafodd yrfa fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr ac wedyn fel ynad heddwch ym Merthyr Tudful ac Aberdâr. Roedd yn un o hyrwyddwyr cynnar y mudiad Cymru Fydd.

Gwaith llenyddol

Yn ogystal â dwy gyfrol o gerddi a chomedi, Y Bardd a'r Cerddor, a ddisgrifir fel "drama orau ei chyfnod" gan Bobi Jones, cyfrannodd nifer o erthyglau beirniadol a dychanol i gylchgronau Cymraeg fel Y Geninen. Roedd Elphin yn fardd poblogaidd yn ei ddydd, ond llym yw beirniadaeth Bobi Jones ar ei gerddi:

"Dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd â goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall." Ond er hynny, "Roedd yn gymeriad llenyddol cwbl unigolyddol."

Llyfryddiaeth

  • Murmuron Menai (d.d.). Cerddi.
  • O Fôr i Fynydd (d.d.). Cerddi.
  • Y Bardd a'r Cerddor (d.d.). Drama.
  • (Gyda David Edwards a John Owen Jones) The Welsh Pulpit: divers notes and opinions, by a Scribe, a Pharisee and a Lawyer (1894)

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 10 Sep 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.