Biography
Gallery (4)
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh tenor | ||
Places | United Kingdom | ||
was | Singer Musician Tenor | ||
Work field | Music | ||
Gender |
| ||
Birth | 1906, Penmachno, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom | ||
Death | 1988 (aged 82 years) | ||
Residence | Penmachno, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom | ||
Awards |
|
Biography
Canwr o Gymro oedd Richie Thomas (1906 – Medi 1988). Fe'i ystyriwyd yn un o denoriaid mwyaf naturiol dawnus Cymru. Ganed ef yn Eirianfa, Penmachno, ger Betws-y-Coed. Bu'n arwain y canu yn ei gapel am dros 50 mlynedd.
Gyrfa
Roedd yn 47 oed pan ddaeth i amlygrwydd cyhoeddus trwy ennill y Wobr y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl 1953. O hynny ymlaen bu ei fywyd yn un gyfres hir o gyngherddau a recordiadau; ond daliodd i weithio fel rheolwr melin wlân hyd ei ymddeoliad. Roedd yn godwr canu yn ei gapel, Bethania, am dros 50 mlynedd.
Roedd Thomas yn Rheolwr Melin Wlân wrth ei alwedigaeth. Gwrthododd Richie, sy’n enwog am ganeuon fel Elen Fwyn ac Yr Hen Rebel, gynnig i ymuno â chwmni Opera Sadler’s Wells yn ogystal â chanu yn Unol Daleithiau America.
Ymhlith uchafbwyntiau gyrfa Richie Thomas oedd ennill yr unawd tenor yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1951; ennill y Rose Bowl yng ngŵyl Gerdd Ryngwladol Blackpool, 1952, allan o 250 o gystadleuwyr, a chipio'r Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953.
Recordiodd 10 o recordiau ar label Qualiton, ac yna recordiodd i labeli Welsh Teledisc a Cambrian cyn recordio dwy LP i gwmni Sain ym 1974 ac 1977.
Plac
Dadorchuddiwyd plac iddo gan Arthur, un o'i feibion, ar ei hen gartref, 'Eirianfa' ym Medi 2012 gyda chyngerdd yn ddilyn gan y canwr lleol, Trebor Edwards a Band Penmachno.
Disgograffi
Cyhoeddodd Richie Thomas o leiaf 20 record yn ystod neu wedi ei yrfa gyda'r nifer helaeth yn senglau a rhai albwm ac un CD Goreuon wedi ei farwolaeth.
Senglau
- I Achub Hen Rebel Fel Fi / Hen Ffon Fy Nain Maimie Noel Jones yn cyfeilio ar y piano; Sengl 10", 78 RPM, Qualiton RD 3132 1958
- Arafa Don / Hen Groesffordd y Llan Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5051 1958
- Dros Bechadur / O Nefol Amen Sengl 10", 78 RPM Recordiau Qualiton RD. 3139 1958
- Y Bugail / Ple'r Aeth Yr Amen Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5055 1959
- I Achub Hen Rebel Fel Fi / Hen Ffon fy Nain Sengl 7", Recordiau Qualiton, WSP 5081 1960
- Gems From The Welsh Opera Blodwen Beti Wyn Jones a Richie Thomas (3 fersiwn o'r gwasgiad) Welsh Teldisc, TEP 817 1963
- Yn Canu Emynau'r Diwygiad Sengl 7" (3 fersiwn o'r gwasgiad) Welsh Teldisc TEP 825 1963
- Caneuon: A1 Y Gwr wrth Ffynnon Jacob; A2 Ar Galfaria; B1 Pardwn yn y Gwaed; B2 A Glywaist Di Bechadur 1963
- Favourite Songs Of Wales Richie Thomas a Beti Wyn Jones Sengl 7" (dau fersiwn wedi gwasgu) Welsh Teldisc TEP 818 1963
- Caneuon: A1 Yr Hen Gerddor (The Old Minstrel), A2 I Achub Hen Rebel fei Fi (The Rebels Lament) Soprano Songs, B1 Nant y Mynydd (The Mountain Stream), B2 Cartref (My Homeland).
- Hen Emynau Cymru (Old Hymns Of Wales) EP 7", Welsh Teldisc TEP 839 1964
- Caneuon: A Glywaist Ti Son, A2 Mi Glywaf Dyner Lais; B1 Ust Gwrandewch, B2 Hardd Rhosyn Saron.
- Songs Of The Welsh Tenor EP 7", Welsh Teldisc TEP 828 1964
- Caneuon: A1 Bugail Aberdyfi, A2 Mentra Gwen; B1 Galwad y Tywysog, B2 O Na byddai'n Haf O Hyd.
- Yn Canu Anfarwol Emynau = Immortal Welsh Hymns EP 7", Welsh Teldisc TEP 845 1965
- Caneuon: A1 Cof am y Cyfiawn Iesu, A2 Ar y Mynydd gyda'r Iesu; B1 Duw sy'n Maddau, B2 Cofio'r Gwaed.
- Richie Thomas Yn Canu EP 7", Recordiau Cambrian CEP 412 1968
- Caneuon: A1 Pwy fydd yma Mhen Can Mlynedd, A2 Rwyf yma yn Mynch Ofni; B1 Hen Feibl Mawr fy Mam, B2 Yn Ymyl y Groes.
- Richard Rees, Richie Thomas – Hen Ganeuon Cymru EP 7", Recordiau Cambrian CEP 407 1968
- Caneuon: A1 Aros mae'r Mynyddau Mawr, A2 Bwthyn Bach melyn fy Nhad; B1 Mae Cymru'n Barod (Duet)
- Richie Thomas Yn Canu EP 7", Recordiau Cambrian CEP 415 1968
- Caneuon: A1 Y Galw, A2 Brethyn Cartref; B1 Serenâd, B2 O Iesu Mawr rho D'anian Bur.
- Y Galw Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5062 blwyddyn anhysbus
- Caneuon: Ochr B: Swn Cawodydd
- Hen Brocer Bach Gloyw Fy Nain Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5061 blwyddyn anhysbus
- Caneuon: Ochr B: O Fryniau Caersalem
Recordiau Hir
- Golomen Wen Albwm 10", 33 ⅓ RPM, [[Recordiau Qualiton (3 gwasgiad gwahanol) QMP 2024 1959
- Caneuon: A1 Y Golomen Wen, A2 Graig Yr Oesoedd, A3 Rhosyn Saron, A4 Mi Glywaf Dyner Lais; B1 Baner ein Gwlad, B2 Y Fam a'i Baban, B3 Ust, Gwrandewch, B4 Ar ei Ben Bo'r Goron.
- Yr Hen Rebel Albwm LP, Recordiau Sain SAIN 1013D 1974
- Caneuon: A1 Cartrefi Gwynion Cymru, A2 Cartrefle, A3 Elen Fwyn, A4 Pa Bryd Ca' i fynd Adre'n Ol?, A5 Carol (Eirinwg), A6 Cannwyll Fy Llygad, A7 Yr Hen Rebel; B1 Llwybr yr Wyddfa, B2 Duw A Digon, B3 Carol (Bethlehem), B4 Y Ddafad Golledig, B5 Cofio'r Groes, B6 Bore'r Geni, B7 Mai.
- Cartre' Fy Nghalon Albwm LP, Recordiau Sain SAIN 1081D 1977
- Caneuon: A1 Y Gân Orchfygol, A2 Mae D'eisiau di Bob Awr, A3 Cartre' Fy Nghalon, A4 Mab Afradlon, A5 Carol Gŵr y Llety, A6 Regent Square, A7 Darlun fy Mam; B1 Mi Glywaf Dyner Lais, B2 Bro Hiraethog, B3 Iesu Annwyl, B4 Dusseldorf, B5 Mi Gerddaf Gyda Thi, B6 Y Gardotes Fach, B7 Ffaeleddau fy Mywyd
- Caneuon Cynnar Richie Thomas Casét, Albwm, Recordiau Tryfan (is-label o Sain TRF C309 1989
- Caneuon: A1 A Glywaist Ti Sôn?, A2 O Nefol Amen, A3 Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob, A4 Cof Am y Cyfiawn Iesu, A5 Yr Hen Rebel, A6 Hen Ffon fy Nain, A7 O Paradiso!, A8 Sound An Alarm, A9 Galwad y Tywysog; B1 Back To Sorrento, B2 Nos Gân, B3 Cymru'n Barod, B4 Somewhere a Voice is Calling, B5 Arafa Don, B6 Ust, Gwrandewch, B7 Baner Ein Gwlad.