Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh politician | |
Places | United Kingdom | |
was | Politician | |
Work field | Politics | |
Gender |
| |
Birth | 1523 | |
Death | 1581 (aged 58 years) |
Biography
Roedd Rhys Vaughan, (tua 1523-tua 1581) yn dirfeddiannwr a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd yn Senedd Lloegr rhwng 1545 a 1547
Bywyd Personol
Ganwyd Robert Vaughan tua 1523 yn fab i William Vaughan, perchennog ystadau Cors y Gedol, Llanddwywe is y graig, Meirionnydd ac ystâd Cilgerran, Sir Benfro. Ei fam oedd Margaret ferch Syr William Perrot, Haroldston, Sir Benfro.
Priododd Gwen ferch Gruffydd ap Gwilym ap Madog Fychan; bu iddynt o leiaf 3 mab a 4 merch.
Gyrfa
Etifeddodd Rhys ystadau ei dad tua 1544 gan dreulio'i oes fel sgweier cefn gwlad di-nod. Fel sgweier fe gyflawnodd y dyletswyddau cyhoeddus disgwyliedig i fonheddwr yn oes y Tuduriaid. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Meirionnydd rhwng 1547-48. Ar ôl lofruddiaeth y Barwn Lewys ab Owain gwblhaodd dymor y Barwn o Dachwedd 1555 i 1556 gan wasanaethu yn y swydd eto yn nhymor 1557. Gwasanaethodd fel Comisiynydd Rhyddhad ym 1550; Comisiynydd y Rhôl Cymorth ym 1556, Siedwr 1566-67 ac fel Ynad Heddwch o tua 1558 hyd ei farwolaeth.
Gyrfa Wleidyddol
Gwasanaethodd yn Senedd Lloegr fel Aelod Seneddol Meirionnydd rhwng 1545 a 1547. Galwyd y Senedd ar 30 Ionawr 1545 a chafodd ei ddiddymu ar farwolaeth Harri VIII; 28 Ionawr 1547.
Marwolaeth
Ysgrifennodd ewyllys ar Awst 8 1580 a chafodd ei brofi ar 6 Mawrth 1582; mae’n amlwg ei fod wedi marw rhywbryd rhwng y ddau ddyddiad. Yn ei ewyllys mae’n gofyn am roi ei weddillion i orwedd yn Eglwys Llanddwywe.
Cyfeiriadau
Senedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edward Stanley | Aelod Seneddol Meirionydd 1545 – 1547 | Olynydd: Lewys ab Owain |