Biography
Lists
Also Viewed
Quick Facts
Intro | Welsh musician | ||
Places | United Kingdom Wales | ||
was | Musician | ||
Work field | Music | ||
Gender |
| ||
Birth | 1927 | ||
Death | 14 January 2015 (aged 88 years) | ||
Family |
| ||
Awards |
|
Biography
Cerddor ac addysgwr Cymreig oedd Rhys Jones MBE (1927 – 14 Ionawr 2015).
Bywyd cynnar
Ganed Rhys Jones yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, ym 1927, yn fab i ysgubwr ffyrdd a nyrs gymunedol. Roedd ei dad hefyd yn arwain corau, ac ef sefydlodd Cor Meibion Trelawnyd. Magwyd yn Ffynnongroyw, Caerwys a Threlawnyd, gan fynychu Ysgol Gynradd Trelawnyd ac Ysgol Ramadeg y Rhyl. Yn yr ysgol yn y Rhyl y datblygodd ei ddiddordeb a'i allu cerddorol.
Gyrfa
Ym 1944, aeth i astudio i ddod yn athro cerdd yng Ngholeg Normal, Bangor, cyn treulio dwy flynedd gyda'r Llu Awyr Brenhinol.
Daeth yn brifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw yn fuan wedi ei sefydliad ym 1953, cyn gadael i ddod yn ddirprwy-brifathro ysgol newydd arall, Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ym 1961, lle bu hefyd yn athro cerdd. Bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Treffynnon am gyfnod cyn dychwelyd yn ddirprwy-brifathro i Ysgol Maes Garmon tua chychwyn yr 1970au.
Fe wnaeth cyfraniad ym myd cerdd fel cyfeilydd, compere, arweinydd a beirniad. Bu'n Gyfarwyddwr Cerddorol Cantorion Gwalia ers 1985, ac mae'n Is-lywydd Anrhydedd Cor Meibion Trelawnyd.
Yn ogystal â chyfansoddi nifer o sioeau cerdd, enillodd wobr goffa T. H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Roedd hefyd yn gyflwynydd rhaglen radio Taro Nodyn, ar foreau Sul ar BBC Radio Cymru a bu'n cyflwyno'r rhaglen grefyddol Dechrau Canu Dechrau Canmol . Darlledwyd rhaglen ddogfen amdano gan S4C yn 2010, sef Rhys Jones: Gwr y Gân.
Derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydedd o Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 2011.
Bywyd personol
Roedd yn briod â Gwen ac roedd ganddynt dau blentyn, Dafydd Rhys Jones a'r enwog Caryl Parry Jones. Bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar ôl salwch.