Ragnhildr

Peerage person ID=404930
The basics

Quick Facts

IntroPeerage person ID=404930
Gender
Female
Family
Father:Amlaíb mac Sitriuc
Spouse:Cynan ab Iago
Children:Gruffudd ap Cynan
The details

Biography

Roedd y dywysoges Lychlynnaidd Ragnell (neu Ragnallt neu Ragnailt) yn ferch i Olaf Arnaid (bu farw 1012), un o feibion Dubhgall, brenin Dulyn, yn wraig i Gynan ap Iago o Wynedd ac yn fam i Ruffudd ap Cynan, brenin teyrnas Gwynedd, yn ôl traddodiad.

Tystiolaeth Hanes Gruffudd ap Cynan

Ychydig sy'n hysbys amdani. Cyfeirir ati yn Hanes Gruffudd ap Cynan yn achau'r tywysog:

Ei dad oedd Cynan, frenin Gwynedd, a'i fam oedd Ragnell ferch Afloedd (Olaf Arnaid), frenin dinas Dulyn a phumed ran Iwerddon (orgraff ddiweddar).

Nid oes cadarnhad o hyn mewn unrhyw ffynhonnell arall ac mae rhai haneswyr yn amheus iawn o'r gosodiad.

Tystiolaeth Wyddelig

Cyfeirir at ferch o'r enw Ragnell yn y testun Hen Wyddeleg Bansenchas (neu Ban-shenchus), sy'n rhestru gwragedd nodedig y byd. Mewn fersiwn mydryddol diweddarach dywedir bod Ragnailt imgen Amlaib arnaid yn fam i Murchertach.

Gweler hefyd

  • Blodeuwedd (drama) (Rhagnell, morwyn Blodeuwedd)
The contents of this page are sourced from Wikipedia article on 23 Mar 2020. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.