Phil Cooper
Welsh comedian
Intro | Welsh comedian | |
Places | United Kingdom | |
is | Comedian Stand-up comedian | |
Work field | Entertainment Humor | |
Gender |
| |
Profiles |
Diddanwr a chomedïwr yw Phil Cooper sy'n perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Magwyd Phil Cooper yn Y Porth, Rhondda. Mae ei gomedi yn trafod Cymru, ei fagwraeth yng Nghwm Rhondda a pherthnasau.
Mae Phil yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud dau rediad llawn yng Ngŵyl Caeredin, gan gynnwys One Phil Over The Cooper’s Nest yn yn Awst 2018. Mae hefyd wedi cyfrannu i sesiynau comedi Stand Up For Wales a drefnir gan grŵp Abertawe o Yes Cymru.
Mae wedi ymddangos ar raglen Heno, Jonathan a rhagflas i'r gemau Chwech Gwlad ar BBC Wales.
Mae Cooper wedi ymddangos ar radio yn y Gymraeg a'r Saesneg sawl gwaith gan gynnwys ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio 4
Mae Phil Cooper wedi ennill sawl cystadleuaeth comedi a diddanu.