Biography
Also Viewed
Quick Facts
Gender |
| |
Birth | 28 March 1906 | |
Death | 25 February 1999 (aged 92 years) | |
Star sign | Aries |
Biography
Roedd O M Roberts (28 Mawrth, 1906 - 25 Chwefror, 1999) yn athro, un o sylfaenwyr Plaid Cymru ac un a chwaraeodd rhan, wrth gefn, yn achos Tân yn Llŷn.
Cefndir
Ganwyd OM yn Llanddeiniolen yn bedwerydd blentyn ac unig fab i John Jeffrey Roberts, chwarelwr, ac Elizabeth (né Morris) ei wraig. Pan oedd yn wyth mlwydd oed symudodd y teulu o Landdeiniolen i ymgartrefu yn Llanrug.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol yr Eglwys, Glanmoelyn, Llanrug; Ysgol Sir Brynrefail; Ysgol Ramadeg Caernarfon a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor lle raddiodd gyda gradd BSc ym 1928 a chymhwyster athro ym 1929.
Gyrfa
Wedi cymhwyso fel athro symudodd OM i Lundain i weithio fel athro gwyddoniaeth mewn ysgolion, yn Bethnal Green, Bow a Bromley cyn derbyn swydd barhaol yn Ysgol Oldfield Road, Stoke Newington. Ym 1930 dychwelodd i Gymru fel athro mathemateg a gwyddoniaeth yn Ysgol y Cefnfaes, Bethesda sef ysgol Eilradd Modern oedd yn darparu addysg i blant a oedd wedi methu arholiad yr 11+ a'r cyfle i fynychu ysgol ramadeg. Ym 1930 symudodd i Ysgol Eilradd Modern Trinity Avenue Llandudno.
Gan fod ganddo radd mewn gwyddoniaeth a bod y wladwriaeth am gadw gwyddonwyr yn ddiogel, rhag gweld eisiau eu harbenigedd yn hwyrach yn y rhyfel, esgusodwyd OM rhag gwasanaeth milwrol gorfodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd; ond cafodd ei symud i swydd Prifathro dros dro ar Ysgol Gynradd Deganwy ym 1943 i lenwi lle'r Prifathro oedd wedi ymrestru a'r llu awyr. Wedi dychwelyd y cyn brifathro o'r Rhyfel ym 1945 penderfynodd OM i barhau yn y sector gynradd a chael ei benodi yn brifathro ar Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno gan aros yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad ym 1966. Yr oedd Ysgol Maelgwn ar y pryd yn ysgol a oedd yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg er bod carfan gref o ddisgyblion yno o gartrefi Cymraeg, rhannodd OM yr Ysgol yn ddwy ffrwd y naill yn dysgu'n bennaf drwy'r Gymraeg a'r llall yn bennaf trwy'r Saesneg, trefn sy'n parhau yn yr ysgol hyd heddiw.
Gyrfa Wleidyddol
Ar gychwyn ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ymunodd OM a'r Gymdeithas Genedlaethol Gymreig, cymdeithas o fyfyrwyr a oedd yn cefnogi ymreolaeth i Gymru ac un o'r grwpiau a daeth ynghyd ym Mhwllheli ym 1925 i drafod ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru; ymunodd OM a'r Blaid ym 1926, gan ddod yn Gadeirydd cyntaf Cangen y Brifysgol o'r Blaid ac yn gynrychiolydd y gangen ar Bwyllgor Sir Gaernarfon ar gyfer trefnu ymgyrch Lewis Valentine fel ymgeisydd y Blaid yn Etholiad Cyffredinol 1929.
Yn ei hunangofiant Oddeutu'r Tân, a gyhoeddwyd ym 1994 datgelodd OM mai ef, J. E. Jones, Victor Hampson Jones a Robin Richards oedd yn cynorthwyo D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis yn y weithred o losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ffermdy hynafol ger Penrhos, Pwllheli, ar 8 Medi 1936. Penderfynwyd mai dim ond y tri gŵr amlwg oedd i gymryd y cyfrifoldeb am y weithred; wedi gosod y deunydd cynnau'r tan, roddwyd 20in munud i'r gwŷr iau ffoi o'r safle cyn y tannio.
Gwasanaethodd fel is-Lywydd Plaid Cymru o 1947 i 1950 ac fel Cadeirydd etholaeth Conwy o'r Blaid o 1945 hyd ei farwolaeth.
Ym 1952 etholwyd OM i Gyngor Cymuned Bwrdeistref Conwy (Cymuned sy'n cynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno), gan wasanaethu fel Maer y Bwrdeistref ym 1959; bu'n aelod o'r Cyngor hyd 1967. Ym 1967 cafodd ei ethol fel Cynghorydd Henryd a'r Ro-wen ar Gyngor Sir Gaernarfon, gan wasanaethu hyd i'r Cyngor cael ei ddiddymu ym 1974 pan gafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Sir Gwynedd a bu'n gadeirydd y cyngor ym 1985-6. Ymddeolodd o Gyngor Gwynedd ym 1989. Er ei fod yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fel ymgeisydd annibynnol safodd pob un etholiad.
Bywyd cyhoeddus
Er bod ffrwd Cymraeg llwyddiannus yn Ysgol Maelgwn ac Ysgol Gynradd Gymraeg yn Llandudno a bod nifer o ysgolion pentrefi oddi ar yr arfordir yn rhai naturiol Cymraeg teimlwyd gan lawer nad oedd darpariaeth Cymraeg digonol yn y sector uwchradd. Er bod Ysgol Aberconwy, Conwy ac Ysgol John Bright, Llandudno yn swyddogol yn rai dwyieithog yr oedd niferoedd y disgyblion di-Gymraeg a mynychai'r ysgolion yn eu gwneud yn ymarferol Saesneg; bu galw gan hynny gan rieni a chefnogwyr eraill addysg Gymraeg am ysgol Cymraeg penodedig yn ardal Llandudno; OM oedd un o'r rhai mwyaf blaenllaw o gefnogwyr achos Ysgol Cymraeg. Yr oedd nifer o gynghorwyr Sir Caernarfon ac wedyn Gwynedd yn gwrthwynebu’r syniad, rhai gan eu bod yn amau bod digon o ddarpar ddisgyblion i gyfiawnhau ysgol Gymraeg penodedig ac eraill yn poeni byddai cydnabod yr angen am ysgol benodedig Cymraeg yn glastwreiddio polisi Gwynedd bod pob ysgol yn y sir yn naturiol ddwyieithog. Cafwyd ymwared o'r pryderon pan ddanfonwyd llythyr gan Cyfarwyddwr Addysg Clwyd i Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd yn awgrymu agor ysgol ar y cyd yn agos i ffin y ddwy sir. Ym 1981 fe agorodd OM Roberts yr ysgol newydd, Ysgol y Creuddyn a bu'n gwasanaethu fel cadeirydd bwrdd rheolwyr yr ysgol am ei wyth mlynedd gyntaf. O 1981 i 1984 cynhaliwyd yr ysgol mewn hen adeiladau a safai ar safle adeiladu'r ysgol bresennol, tra fo ysgol newydd yn cael ei adeiladu o'u hamgylch hi; agorwyd yr ysgol newydd ym 1984, eto, gan O M Roberts. Cynigir Gwobr Goffa O M Roberts yn flynyddol gan Ysgol y Creuddyn am gyfraniad i Gymreictod yr Ysgol a'r Gymuned
Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar Fainc Ynadon Llandudno.
Bu'n ysgrifennydd y Pwyllgor Drama ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947 ac yn gadeirydd y pwyllgor yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1963 a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989.